Teithlen y Gogledd-orllewin
Cestyll a muriau trefi Edward I
O 1276 ymlaen llwyddodd Edward I, brenin Lloegr, i sefydlu cyfres rymus o gestyll a threfi yn y Gogledd fel rhan o’i ymgyrch filwrol i drechu Tywysogion Cymru. Mae’r cestyll a godwyd gan Edward I yn cynnwys Caernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech, sydd gyda’i gilydd wedi sicrhau statws Safle Treftadaeth Byd.
Mae’r cestyll hyn yn amlygu’r medrau gorau o ran codi cestyll a oedd yng ngorllewin Ewrop ar y pryd. Mewn cyfnod byr y cawson nhw eu codi ar raddfa anhygoel o uchelgeisiol.
Gyda’u llenfuriau enfawr a’u tyrau a’u porthdai pwerus, mae i’r cylch o gestyll bresenoldeb grymus yn nhirlun Eryri ac mae’n symbol o ymdrech aruthrol Edward I i drechu’r Gogledd ac ymladd yn erbyn gwrthryfel y Cymry.
Mae gan bob castell ei stori ei hun....
Map Taith
01 / 04
Mae’r henebion ysblennydd hyn yn fan cychwyn i astudio hanes Cymru a hynny yng nghadarnleoedd y Tywysogion.
Mae’r gwaith dehongli ar y safleoedd yn helpu’r ymwelwyr i ystyried y storïau gwefreiddiol, o bobl i bwˆer milwrol a chrefyddol, yn ogystal â bywyd y cartref a’r bywyd ysbrydol.
Mae gan Cadw chwe safle arall yn y rhwydwaith o gestyll a godwyd gan Edward I neu o dan ddylanwad ei gyfundrefn, ei ragflaenwyr a’i ddeiliaid yn y Gogledd: Castell y Fflint, Castell Dinbych a Muriau’r Dref, Rhuddlan, Cricieth, Dolbadarn a Dolwyddelan.
Cewch eich ysbrydoli gan yr hyn y gallwch chi ei weld a’i wneud yng ngogledd-ddwyrain Cymru…
Darganfyddwch fwy o safleoedd Cadw ledled y gogledd
Mae gan Cadw chwe safle arall yn y rhwydwaith o gestyll a godwyd gan Edward I neu o dan ddylanwad ei gyfundrefn, ei ragflaenwyr a’I ddeiliaid yn y Gogledd: Castell y Fflint, Castell Dinbych a Muriau’r Dref, Rhuddlan, Cricieth, Dolbadarn a Dolwyddelan.
Canllaw Mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.