Taith treftadaeth ddiwydiannol
Astudio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Cymru
Mae gan Gymru lawer i’w gynnig o ran ei threftadaeth ddiwydiannol, gyda llawer o drysorau diwydiannol gwerth eu gweld — gan gynnwys safle o bwysigrwydd diwydiannol mor nodedig fel ei fod wedi derbyn statws Treftadaeth Byd.
Mae tirlun Treftadaeth Byd Blaenafon, yng nghalon cymoedd de Cymru, yn cynnig atyniadau niferus, gan gynnwys y cyfle i brofi bywyd fel glöwr yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, ac fel gweithiwr yng Ngwaith Haearn Blaenafon, safle a gafodd effaith arwyddocaol ar y byd rydyn ni’n ei adnabod heddiw.
Ymhellach i’r gorllewin mae cartref Amgueddfa Wlân Cymru, wedi’i lleoli yn yr hen felinau hanesyddol, Melinau Cambrian, ac yng nghalon mynyddoedd Eryri yng ngogledd Cymru mae Amgueddfa Lechi Cymru. Mae gan y pedwar cwr yng Nghymru stori ddiwydiannol i’w hadrodd...
Map Taith
Amser teithio mewn car
Gellir cyrraedd Blaenafon a Big Pit o Gaerdydd mewn ychydig llai nag awr. Mae’r siwrnai o Abertawe i Amgueddfa Wlân Cymru ychydig dros awr. Mae Amgueddfa Lechi Cymru yng ngogledd Cymru, ym mhentref Llanberis wrth droed yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru, ac oddeutu 1.5 awr o Lerpwl.
Cymru — Y Wlad Ddiwydiannol Gyntaf
Dynododd UNESCO y campwaith peirianneg sifil hwn yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2009 - ynghyd ag 11 milltir o gamlas yn cynnwys Traphont Ddŵr y Waun a Rhaeadr y Bedol yn Llantysilio, ger Llangollen. Oeddech chi'n gwybod..? Pan orffennodd Thomas Telford Draphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1805, hon oedd y groesfan cychod camlas dalaf yn y byd.