Stori Meillionydd

Bryngaer Fach Oes yr Haearn ym Mhen Llŷn

Meillionydd

Map o benrhyn Llŷn yn dangos dosbarthiad aneddiadau tai crynion (smotiau du), bryngaerau (sêr coch) a chlostiroedd cylchfur dwbl (smotiau piws).

Ar lethr isaf orllewinol Mynydd Rhiw, mae clostir Meillionydd: anheddiad o dai crynion wedi’u hamgylchynu gan glostir cylchfur dwbl ag arglawdd, sy'n dyddio o'r Oes Haearn Cynnar a Chanol yr Oes Haearn. Er bod bryngaerau yn fath cyffredin o anheddiad yng Nghymru yn ystod yr Oes Haearn, mae’r clostiroedd cylchfur dwbl yn fath rhanbarthol sydd wedi’u crynhoi ar ben gorllewinol penrhyn Llŷn. Mae naw neu efallai ddeg o’r 13 o glostiroedd cylchfur dwbl hysbys yng ngogledd orllewin Cymru wedi'u lleoli yma. Ar wahân i Feillionydd, dim ond un o’r safleoedd hyn sydd wedi cael ei gloddio ym Mhen Llŷn: Castell Odo ger Aberdaron, a gafodd ei gloddio ddiwedd y 1950au gan Leslie Alcock.

Tai crynion yn cael eu cloddio ym Meillionydd

Bu’r safle’n ganolbwynt i waith cloddio helaeth rhwng 2010 a 2017, dan arweiniad Raimund Karl, Katherina Möller a Kate Waddington o Brifysgol Bangor. Dewiswyd y safle am ei fod yn agos at Gastell Odo, a oedd yn ein galluogi i gymharu’r ddau safle, yn ogystal â chanlyniadau gwych arolwg geoffisegol a gynhaliwyd gan George Smith a David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn 2007.

Canlyniadau’r cloddio

Gwaith cloddio tai crynion a gafodd eu hadeiladu gyda cherrig yn y clawdd allanol sydd wedi’u lleoli wrth ymyl y fynedfa ddwyreiniol.

Nod ein gwaith cloddio oedd archwilio’r mathau o gymunedau a oedd yn byw yn y safleoedd hyn a’r mathau o weithgareddau a oedd yn cael eu cynnal yno, yn ogystal â mireinio datblygiad cronolegol y clostiroedd unigryw hyn. Mae’r gwaith ymchwil presennol wedi canolbwyntio ar Gloddio Ardal y Dwyrain (cyfnodau cloddio 2010- 2014), a oedd yn edrych ar y ffiniau y naill ochr i’r fynedfa ddwyreiniol, yn ogystal â’r tai crynion cysylltiedig, mewn ardal gyfun sy’n mesur tua 800m². Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi cynnwys dadansoddiadau arbenigol o’r casgliadau o wrthrychau, 23 o ddyddiadau radiocarbon, a gweddillion planhigion wedi’u llosgi o’r samplau pridd.

Chwith: Cynllun o’r ffosydd a gloddiwyd rhwng 2010-2017 gyda’r dehongliad o’r arolwg magnetomedr. Dde: Arolwg topograffig yn dangos y cloddiau dwbl a’r ffosydd gweladwy 1, 2, a 3 yn 2012.

Cynllun o’r holl nodweddion a gloddiwyd yng nghamau 1, 2 a 3, sy’n dangos lleoliad pyllau storio grawn a graneri (cylchoedd lliw a sgwariau).

Mae arwynebedd o tua 2125 metr sgwâr wedi cael ei gloddio ym Meillionydd hyd yma. Roedd hyn yn cynnwys ffosydd a oedd yn archwilio’r fynedfa ddwyreiniol a’r gwahanol gyfnodau o ffiniau’r clostir, yn ogystal ag olion tai crynion pren a cherrig a oedd yn gorgyffwrdd a ddarganfuwyd y tu mewn, ochr yn ochr â rhai strwythurau storio grawn. Mae’r dystiolaeth yn nodweddiadol o fryngaerau’r Oes Haearn, ac mae’n dangos pa mor bwysig oedd y lleoedd hyn i gymunedau a oedd yn byw yma yn y mileniwm cyntaf CC. Roeddent yn aneddiadau ac yn fannau ar gyfer storio bwyd, ond roeddent hefyd yn ganolbwynt i fywyd cymunedol, lle byddai’r boblogaeth ehangach yn ymgynnull ar gyfer gwyliau amaethyddol, seremonïau a chyfarfodydd gwleidyddol.

Gweithgarwch cynhanesyddol cynharach ym Meillionydd

Brasffurf bwyell Mynydd Rhiw o’r Cyfnod Neolithig Cynnar (Llun: Nebu George).

Yr hyn sy’n ddiddorol am Feillionydd yw bod ganddo hanes dwfn sy’n ymestyn yn ôl i’r Cyfnod Neolithig Cynnar a’r Oes Efydd Cynnar, ymhell cyn datblygiad y clostir o’r Oes Haearn, ond nid oes dealltwriaeth dda o’r cyfnodau hyn. Maen nhw’n awgrymu pwysigrwydd y lleoliad hwn yn llawer cynharach (ac mae’n bosib bod yr hanes cynnar hwn wedi cynyddu pwysigrwydd Meillionydd i grwpiau’r Oes Haearn).

Mae dadansoddiadau diweddar George Smith o’r gwrthrychau cerrig wedi helpu i ddod â’r hanes cynharach hwn ym Meillionydd i’r amlwg. Mae’r gwrthrychau’n cynnwys brasffurf bwyell o’r Cyfnod Neolithig Cynnar wedi’i wneud o garreg Mynydd Rhiw a oedd yn cael eu cloddio ar ben y bryn yn y pedwerydd mileniwm CC, adeg y cymunedau ffermio cyntaf ym Mhrydain. Mae’n ddiddorol bod y gwrthrych Neolithig hwn wedi cael ei ailddefnyddio gan drigolion yr Oes Haearn fel rhan o’r arwyneb coblog sy’n rhedeg drwy fynedfa’r clostir ar ben y bryn.

Model 3D o’r Brasffurf Bwyell o’r Cyfnod Netholig Cynnar SF 563 (model 3D: Noah Bryant).

Llafn o'r Cyfnod Neolithig Cynnar, Mynydd Rhiw SF 292 (Llun: Nebu George).

Daethpwyd o hyd i lafnau eraill o’r cyfnod Neolithig Cynnar ym Meillionydd hefyd – mae’r un yma yn union yr un fath â’r un a ganfuwyd pan fu Chris Houlder yn cloddio ffatri bwyelli ym Mynydd Rhiw yn y 1950au. Mae gwaith cloddio diweddar gan Steve Burrow (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) wedi dangos fod rhan fawr o’r bryn yn ffocws i’r gwaith cloddio cerrig hwn rhwng tua 3700 a 3100 cal. CC. Mae’r dystiolaeth yn datgelu presenoldeb anheddiad (byrhoedlog) o’r cyfnod Neolithig Cynnar ym Meillionydd nad oeddem yn gwybod amdano, sydd wedi cael ei gwtogi gan weithgarwch yn ystod yr Oes Haearn.

Alignment of Early Bronze Age funerary cairns on Mynydd Rhiw (Photo: Kate Waddington).

Mae tystiolaeth bellach hefyd bod y safle wedi cael ei ailfeddiannu yn yr Oes Efydd Cynnar, yn ystod rhan gynnar yr ail fileniwm CC. Roedd clwstwr o dyllau a thyllau pyst yn Ffos 3, a oedd wedi’i selio o dan dŷ crwn o’r Oes Haearn Cynnar, wedi cynhyrchu dau ddyddiad radiocarbon rhwng tua 2000 a 1800 cal. CC. Nid oes dealltwriaeth dda o’r Oes Efydd Cynnar ym Meillionydd chwaith, ond mae’n debyg ei fod yn gyfoes â’r aliniad o garneddau angladdol yr Oes Efydd Cynnar sydd ar Fynydd Rhiw.

Lleoliad safleoedd amrywiol o'r Cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd Cynnar a chlostiroedd cylch dwbl eraill ger Meillionydd.

Yn wir, oherwydd nifer yr henebion cynhanesyddol ar y bryn hwn, mae’n bosibl iawn fod Mynydd Rhiw yn lleoliad cyfadeilad seremonïol a angladdol o’r Cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd Cynnar. Fel y mae’r map rhyngweithiol ar y dde yn ei ddangos, mae’r bryn ei hun yn cynnwys ffatri bwyelli o’r Cyfnod Neolithig, dau feddrod siambr Neolithig, aliniad o bump neu chwech o garneddau angladdol o’r Oes Efydd Cynnar a chistfaen gladdu o’r Oes Efydd Cynnar ymhellach i lawr y llethr, yn ogystal â dau faen hir o'r Oes Efydd Cynnar. Mae’r gweithgarwch cynhanesyddol cynharach hwn ar y bryn yn arwyddocaol: erbyn yr Oes Haearn, mae’n bosibl bod y lle hwn yn gysylltiedig â chwedlau a gafodd eu trosglwyddo drwy draddodiadau adrodd straeon, a byddai hyn wedi cynyddu pwysigrwydd y lle hwn i gymunedau’r Oes Haearn. Mae’n ddigon posibl mai dyma’r rheswm pam y lleolwyd tri chlostir cylchfur dwbl yma yn y mileniwm cyntaf CC.

Clostir cylchfur pren yr Oes Haearn Cynnar

Chwith: Llun yn dangos y tai crynion pren a’r ffiniau ar ochr ddwyreiniol y safle. Y cysgod llwyd yw’r trac coblaidd sy’n arwain at y porth mynediad (a ddangosir mewn coch), yr oedd ei dwll post yn cynnwys darn o gylch jet mân. Y lliw gwyrdd yw’r ffos fas sy’n amgáu’r anheddiad. Dde: Arolwg Radar Treiddiol sy’n dangos y porth mynediad pedair postyn, gydag arwyneb wedi’i gribo yn rhedeg drwy’r fynedfa talp 60-80 cm o dan yr wyneb, sy’n dangos y ddwy ffos fas sy’n amgylchynu’r anheddiad yn bennaf.

Cafodd y safle ei ailfeddiannu ychydig dros 1000 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn y mileniwm cyntaf CC, pan adeiladwyd bryngaer bren siâp cylch a oedd yn mesur tua 80-100m mewn diamedr (Cam 2). Mae’n cael ei ddiffinio gan ddwy ffos gonsentrig fas (a oedd yn fwy na thebyg yn gweithredu fel slotiau palisau), gyda mynedfa ddwyreiniol. Ar ochr ddwyreiniol y safle, o amgylch y fynedfa, dim ond un ffos oedd yno ond roedd ffens bren a Darganfuwyd nifer o dai crynion pren yn y clostir. Cafodd y fynedfa gaeedig hon ei gwella gan ddyddodion arbennig sy’n marcio’r fynedfa, gan gynnwys gwrthrychau haearn wedi pydru a chrwsibl ar gyfer toddi efydd yn nherfynau’r ffos, yn ogystal â darnau modrwy jet wedi’u haddurno ar waelod twll post mawr yn y porth mynediad.

Mae Meillionydd yn anheddiad o Oes yr Haearn sydd heb unrhyw grochenwaith. Mae’r llun hwn yn dangos detholiad o ddarnau o glai wedi’u llyfnhau a ddefnyddiwyd i leinio nodweddion, aelwydydd a waliau ar yr anheddiad (llun: Nebu George).

Dangosodd y rhaglen dyddio radiocarbon a dadansoddiad Bayesaidd a gynhyrchwyd gan yr Athro Derek Hamilton mai anheddiad o’r Oes Haearn Cynnar yw hwn. Roedd pobl yn byw yma ers dechrau 600 neu 550 CC tan tua 470 neu 450 CC. Mae hyn yn dangos bod y cam hwn yn gymharol fyrhoedlog – ac mae’n bosibl mai dim ond am ganrif yn unig y cafodd ei feddiannu (er nad yw rhai o’r tai crynion pren cynharach wedi cael eu dyddio eto). Fodd bynnag, mae’n annhebygol o fod wedi dechrau ymhell cyn 600 CC gan nad ydym eto wedi dod o hyd i’r un darn o grochenwaith o Ddiwedd yr Oes Efydd, er gwaethaf y gwaith cloddio helaeth (mae’r pum darn bach o grochenwaith tybiedig bellach wedi cael eu hailddosbarthu’n glai wedi’u llyfnhau a oedd yn cael eu defnyddio i leinio nodweddion neu aelwydydd).

Clostir cylchfur dwbl o'r Oes Haearn Cynnar i Ganol yr Oes Haearn

Chwith: Cynllun o glostir cylchfur dwbl o'r Oes Haearn Gynnar i Ganol yr Oes Haearn, Cam 3a, gyda lleoliad adfer glain gwydr wedi’i addurno. Gwaelod Dde: Adeiladwyd tŷ crwn cerrig (neu warchoddy) fel un gyda’r clawdd allanol ac fe’i lleolir yn union wrth ymyl y fynedfa allanol.

Wrth i’r Oes Haearn Cynnar ddod i ben, cafodd yr anheddiad ei goffáu a’i ailadeiladu gyda cherrig. Cafodd y cloddiau dwbl cerrig a phridd eu hadeiladu a chafodd mynedfa ddwyreiniol newydd ei chreu a oedd hefyd â llwybr neu ffordd yn rhedeg drwyddi (Cam 3a). Roedd darganfyddiad rhyfeddol arall yn ein disgwyl yn un o’r tyllau pyst mawr o borth mynedfa Cam 3a – glain gwydr gwyrdd-glas addurnedig. Adeiladwyd nifer o dai crynion â waliau cerrig yn y tu mewn, ac yn aml fe'u gosodwyd yn fwriadol ar ben y tai crynion pren cynharach. Roedd gan y tai crynion newydd hyn waliau cerrig trwchus taclus ar yr wynebau allanol a mewnol, ac roedden nhw wedi’u llenwi â phridd a cherrig llai – adeiladwyd llawer ohonynt y tu mewn i wyneb mewnol y clawdd mewnol.

Y tŷ mynediad (neu’r gwarchoddy) wedi’i adeiladu yn y clawdd allanol ac wedi’i leoli wrth ymyl y fynedfa allanol.

Adeiladwyd tŷ crwn newydd â wal gerrig hefyd fel rhan o’r clawdd allanol a’i leoli’n union wrth ymyl y fynedfa allanol – ac roedd preswylwyr yr adeilad hwn yn monitro llif pobl, anifeiliaid a chartiau i mewn ac allan o’r clostir. Mae’r modelu Bayesaidd o’r dyddiadau radiocarbon hefyd wedi datgelu bod hon yn fryngaer gymharol fyrhoedlog. Cafodd ei adeiladu tua 470 cal CC a daeth i ben erbyn 300 cal CC. Roedd y rhan fwyaf o’r tai crynion yn y cyfnod hwn yn para tua 70 mlynedd, er bod y tŷ mynediad wedi’i feddiannu am fwy o amser na hynny, mae’n debyg.

Yr anheddiad Canol yr Oes Haearn i’r Oes Haearn Hwyr, Cam 3B

Cynllun yn dangos y tai crynion a adeiladwyd yng Ngham 3b (cylchoedd coch) a oedd yn rhwystro’r fynedfa fewnol, ar ddiwedd yr Oes Haearn Canol. Ar y pryd, mae’n debyg bod y setliad yn un agored.

Yn ystod y cam nesaf, cafodd y safle ei ailfodelu’n drawiadol. Mae’r clawdd mewnol a’r fynedfa ar ochr ddwyreiniol y clostir wedi’u dinistrio, ac mae tai crynion cerrig wedi cael eu hadeiladu’n uniongyrchol am eu pennau ac o fewn y fynedfa wreiddiol, gan ei gau i bob pwrpas. Yn wreiddiol, fe wnaethom dybio bod y cam hwn wedi digwydd yn syth ar ôl y cam blaenorol, a’i fod yn ymgais gan y preswylwyr i gynyddu faint o le oedd ganddyn nhw. Fodd bynnag, mae’r dadansoddiad o ddyddiadau’r radiocarbon wedi dangos nad yw hyn yn gywir. Dangosodd y dystiolaeth dyddio fod y tŷ cynharaf yng Ngham 3b wedi’i adeiladu rywbryd ar ôl 200 CC. Mae hyn yn dangos bod y lle wedi cael ei adael am gyfnod byr rhwng diwedd Cam 3a a dechrau Cam 3b, a oedd wedi para tua 100 mlynedd. Mae meddiannaeth y clostir yn y cyfnod olaf hwn mor drawiadol o wahanol fel ei fod yn gwneud synnwyr ei fod yn cael ei adeiladu gan genhedlaeth newydd o adeiladwyr, a oedd wedi penderfynu dychwelyd i Feillionydd ac adnewyddu’r anheddiad. Nid yw gweddill dilyniant y tai crynion yn y cam hwn wedi cael eu dyddio eto, ond mae’n debygol fod pobl wedi byw yma hyd at y mileniwm cynnar cyntaf OC. Bydd dyddio’r tai crynion olaf hyn yn ganolbwynt i waith ymchwil yn y dyfodol.

Y darganfyddiadau

Er ein bod wedi edrych yn fras ar hanes Meillionydd, gadewch i ni edrych yn awr ar rai arteffactau a oedd yn rhan o fywyd beunyddiol pobl Meillionydd ar ffurf cynhyrchu tecstilau, cynhyrchu bwyd, gwrthrychau addurnol a gwrthrychau diddorol eraill.

Pestl carreg i’w ddefnyddio mewn morter (Llun: Natasha Sellers).

Mae’r casgliad o arteffactau ym Meillionydd ac aneddiadau eraill o’r Oes Haearn yng ngogledd orllewin Cymru yn gyfyngedig mewn sawl ffordd. Oherwydd y priddoedd asidaidd, nid yw cydrannau organig fel esgyrn anifeiliaid, arteffactau esgyrn, ac olion dynol (canfyddiadau nodweddiadol mewn aneddiadau’r Oes Haearn) fel arfer yn goroesi. Yn ogystal, nid oes unrhyw grochenwaith o’r Oes Haearn yn y rhanbarth hwn, sy’n golygu nad oes crochenwaith ar gael i’w ddyddio. Yn hytrach, rydyn ni’n dod ar draws amrywiaeth eang o offer cerrig, fel cerrig morthwyl neu gerrig llyfnu neu falu, yn ogystal â throellwyr a gwrthrychau addurniadol. Mae gweddillion planhigion wedi’u golosgi a gasglwyd o samplau pridd a gymerwyd yn ystod y gwaith cloddio yn dangos bod y bobl sy’n byw ym Meillionydd wedi tyfu haidd a gwenith emer yn bennaf, gyda neu falu, yn ogystal â throellwyr a gwrthrychau addurniadol. Mae gweddillion planhigion wedi’u golosgi a gasglwyd o samplau pridd a gymerwyd yn ystod y gwaith cloddio yn dangos bod y bobl sy’n byw ym Meillionydd wedi tyfu haidd a gwenith emer yn bennaf, gyda cheirch a gwenith yr Almaen hefyd yn cael eu ffermio o bryd i’w gilydd. Daeth eu ffynonellau tanwydd o goetir collddail cymysg lleol yn ogystal â mawn a grug.

Gwrthrychau addurnol

Mae detholiad bach o wrthrychau addurnol mân o anheddiad yr Oes Haearn.

Modrwy jet

Y darn o fodrwy jet. Y naill ffordd neu’r llall, mae wedi gwisgo ac roedd y darn wedi cael ei gadw am gyfnod hir cyn ei ddyddodi yn y pen draw fel sylfaen a oedd yn marcio mynedfa Cam 2 (Llun: Nebu George).

Roedd twll postyn mawr o borth mynediad Cam 3a yn cynnwys darn o fodrwy jet sy’n rhy fach i fod yn freichled plentyn ac yn rhy fawr i fod yn fodrwy bys. Mae’n debyg ei fod yn ffitiad ffrog neu’n wrthrych a oedd yn cael ei wisgo fel hongiad.

Gleiniau gwydr

Glain gwydr gwyrdd-glas addurnedig o borthdy Cam 3a (Llun: Nebu George).

Roedd un o dyllau pyst mawr porthdy Cam 3a hefyd yn cynnwys gwrthrych anarferol arall. Glain gwydr glaswyrdd wedi’i addurno yw hwn, a daethpwyd o hyd iddo yng ngwaelod twll postyn. Mae Elizabeth Foulds wedi cynnal astudiaeth fanwl o’r gwrthrych hwn yn ddiweddar. Mae’r rhan fwyaf o leiniau gwydr yr Oes Haearn yn las, ac felly mae dod o hyd i un tebyg wedi bod yn heriol, oherwydd ei liw canol-gwyrdd anarferol. Mae hefyd wedi’i addurno â nodwedd cylch-llygad anarferol. Mae’r un tebycaf iddo’n bodoli yng nghladdedigaethau Wetwang Slack yr Oes Haearn Canol yn nwyrain Swydd Efrog.

Mae’r casgliad o’r gistfaen gladdu yn un o’r tai crynion olaf yn anheddiad Cam 3b (Lluniau: Natasha Sellers).

Roedd tri glain gwydr glas plaen wedi cael eu rhoi mewn pwll cerrig anarferol yn un o loriau’r tai crynion olaf yng Ngham 3b. Roedd y nodwedd hon yn cynnwys amrywiaeth o ddarganfyddiadau diddorol, gan gynnwys dau droellwr carreg a chrafwr siert mân, a dadansoddiad o’r priddoedd gan Nebu George a oedd yn datgelu llofnodion cemegol sy’n gyson â chladdedigaethau dynol. Felly, mae’n ymddangos yn debygol iawn mai cistfaen gladdu yw hon, a oedd o bosibl wedi’i gosod fel claddedigaeth sylfaen yn ystod y gwaith o adeiladu’r tŷ hwn, gyda’r gweddillion dynol yn pydru yn y priddoedd asidaidd.

Gwrthrychau cynhyrchu tecstilau

Troellwyr

Y casgliad o droellwyr a gafodd eu casglu ym Meillionydd. Gwŷdd pwysau wedi’i addurno yw’r gwrthrych ar y dde isaf (Llun: Nebu George).

Defnyddiwyd troellwyr fel pwysau ar waelod y droell wrth droelli’r edau â llaw. Roeddent wedi’u gwneud o ddeunyddiau amrywiol fel cerrig, clai, plwm a chyrn ceirw. Troellwyr cerrig neu blwm yw’r enghreifftiau a welsom ym Meillionydd. Wrth gymharu'r troellwyr cerrig â’r rhai plwm, mae’n amlwg bod y pwysau’n debyg iawn er bod y troellwyr plwm yn llawer llai o ran maint. Er bod modd addurno troellwyr, nid oedd y rhan fwyaf o’r rhai a ganfuwyd ym Meillionydd wedi’u haddurno. Yr unig eithriad yw troellwr carreg wedi’i addurno â llinellau a ganfuwyd yn 2016.

Troellwyr plwm o Feillionydd (Lluniau: Natasha Sellers).

Daethpwyd o hyd i droellwyr plwm hefyd ym Meillionydd, yn haenau uchaf y safle. Mae nifer fach o droellwyr plwm wedi’u canfod mewn tai crynion Brythonaidd-Rufeinig ar Ynys Môn. Mae’n ymddangos yn debygol bod y ddau o Feillionydd yn perthyn i’r cyfnod hwn.

Troellwyr SF 924 Meillionydd. O ran graddfa, gweler y llun o’r troellwyr o Feillionydd uchod (model 3D: Noah Bryant).

Hanner Troellwr SF 896 o Feillionydd. O ran graddfa, gweler y llun o’r troellwyr o Feillionydd uchod (model 3D: Nebu George).

Cerrig llyfnu

Mae gan gerrig rhwbio neu gerrig llyfnu siâp crwn fel arfer, ac maen nhw’n ffitio’n dda yng nghledr eich llaw. Roedden nhw’n cael eu defnyddio i weithio crwyn ac i ffeltio gwlân. Mae’r defnydd cyson yn arwain at un neu fwy o ochrau’n cael eu treulio i lawr, gan adael yr arwyneb yn llyfn a gloyw. Mae ymylon llawer o’r cerrig llyfnu o Feillionydd wedi’u treulio ac wedi cael eu defnyddio mewn ffyrdd eraill, fel morthwylion bach neu falwyr. Roedd sawl defnydd i’r offer hyn.

Detholiad o gerrig llyfnu a ddefnyddiwyd ar gyfer gwaith tecstilau/lledr, gyda’r ymylon yn cael eu defnyddio fel morthwylion ysgafn (Lluniau: Natasha Sellers).

Model 3D o garreg llyfnu fach, SF 511. Maint: 89x69x50 mm (model 3D: Noah Bryant).

Model 3D o gabolwr cerrig mân gydag ymylon ffasedog, SF 201 80x75x46 mm (model 3D: Noah Bryant).

Model 3D o garreg llyfnu, SF 601 56x59x31 mm (model 3D: Noah Bryant).

Gwrthrychau cynhyrchu bwyd

Cafwyd hyd i amrywiaeth o wrthrychau yn ymwneud â chynhyrchu bwyd ym Meillionydd. Maen nhw’n cynnwys meini melin a sychwyr meini melin ar gyfer malu grawn a deunyddiau bwyd eraill, yn ogystal â phestlau (cerrig peflog) ar gyfer malu sylweddau eraill. Daethpwyd o hyd i dyllau coginio yn rhai o’r tai crynion.

Meini melin

Maen melin gyda charreg rwbio wedi’i chanfod ar ei ben.

Ni chafwyd hyd i lawer o feini melin cyfrwy (ar gyfer malu grawn) ym Meillionydd. Cafodd y gwrthrychau hyn eu symud yn fwriadol o’r tai crynion pan gawsant eu gadael. Dim ond dwy faen melin sydd wedi’i chanfod. Daethpwyd o hyd i’r un a welir ar y dde gyda’r garreg rwbio fawr ar ei phen!

Model 3D o faen melin (gweler y llun uchod ar gyfer graddfa) (model 3D: Nebu George).

Model 3D o faen melin cyfrwy, SF 801 (edrychwch ar y lluniau isod i weld y raddfa) (model 3D: Nebu George).

Maen melin cyfrwy, SF 801 (Lluniau: Nebu George).

Offer cyffredinol

Y darganfyddiadau mwyaf cyffredin ar y safle yw offer cerrig. Mae’r rhain yn amrywio o ran siâp a maint, yn dibynnu ar y dasg y cawsant eu defnyddio ar ei chyfer. Fodd bynnag, yn hytrach na chael eu torri i’r siâp gofynnol, cerrig naturiol ydyn nhw a gafodd eu dewis oherwydd bod eu siâp yn addas ar gyfer y dasg – maen marciau ar eu hwynebau sy’n dangos i archaeolegwyr sut roedden nhw’n cael eu defnyddio.

Detholiad o offer cerrig o Feillionydd (cerrig morthwylio, crafwyr a phestlau/malwyr) (Lluniau: Natasha Sellers a Nebu George).

Model 3D o garreg hogi, SF 368. Maint: 58x24x17 mm (model 3D: Nebu George).

Model 3D o garreg beflog a ddefnyddiwyd ar gyfer malu, SF 6. Maint: 106x64x36 mm (model 3D: Noah Bryant).

Modelau 3D o gerrig morthwylio, SF 629. Maint: 143x53x67 mm (model 3D: Nebu George).

Modelau 3D o garreg forthwylio bach, SF 148 84x62x48 mm (model 3D: Noah Bryant).

Modelau 3D o slab gweithio, SF 67. Maint 142x75x31 mm (model 3D: Noah Bryant).

Lampau a morteri

David Chapman o’r Celfyddydau Hynafol wedi ailadeiladu lamp gynhanesyddol.

Daethpwyd o hyd i gasgliad o gerrig a oedd yn cael eu defnyddio fel lampau ac o bosibl fel morteri yn yr anheddiad. Cerrig yw’r rhain sydd ag un wyneb sydd wedi cael ei bigo i ffwrdd gan garreg forthwyl er mwyn creu powlen. Mae’r lamp (isod) yn enghraifft dda – byddai’r bowlen wedi dal braster anifeiliaid, a byddai llinyn ffibr naturiol ar yr ymyl (gwair wedi’i droelli) yn amsugno’r braster ac yn llosgi’n dda (David Chapman pers comm).

Lamp garreg wedi torri o Feillionydd, SF 552 (Llun: Nebu George).

Model 3D o lamp neu fortar carreg heb ei ddefnyddio, SF 695. Maint: 88x87x56 mm (model 3D: Nebu George).

Model 3D o forter bach, SF 632. 88x68x54 mm (model 3D: Noah Bryant).

I weld rhagor o fodelau 3D o wrthrychau o Feillionydd, edrychwch ar ein cyfrif Sketchfab:  https://sketchfab.com/BangorArchObjects/collections/meillionydd-artefacts-cc6378c5e82c4cbb828cfc078d846f48 

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio archaeoleg Mynydd Rhiw, edrychwch ar ein taith archaeoleg dan arweiniad:  https://storymaps.arcgis.com/stories/05393deb5fe7402691de5e29f3c5ab76 

Os hoffech chi archwilio archaeoleg ysblennydd bryngaer Tre'r Ceiri, sy’n wal gerrig, tarwch olwg ar ein taith rithwir 360 gradd:  https://www.ecomuseumlive.eu/tre-r-ceiri-virtual-tour 

Map o benrhyn Llŷn yn dangos dosbarthiad aneddiadau tai crynion (smotiau du), bryngaerau (sêr coch) a chlostiroedd cylchfur dwbl (smotiau piws).

Tai crynion yn cael eu cloddio ym Meillionydd

Gwaith cloddio tai crynion a gafodd eu hadeiladu gyda cherrig yn y clawdd allanol sydd wedi’u lleoli wrth ymyl y fynedfa ddwyreiniol.

Cynllun o’r holl nodweddion a gloddiwyd yng nghamau 1, 2 a 3, sy’n dangos lleoliad pyllau storio grawn a graneri (cylchoedd lliw a sgwariau).

Brasffurf bwyell Mynydd Rhiw o’r Cyfnod Neolithig Cynnar (Llun: Nebu George).

Llafn o'r Cyfnod Neolithig Cynnar, Mynydd Rhiw SF 292 (Llun: Nebu George).

Alignment of Early Bronze Age funerary cairns on Mynydd Rhiw (Photo: Kate Waddington).

Chwith: Llun yn dangos y tai crynion pren a’r ffiniau ar ochr ddwyreiniol y safle. Y cysgod llwyd yw’r trac coblaidd sy’n arwain at y porth mynediad (a ddangosir mewn coch), yr oedd ei dwll post yn cynnwys darn o gylch jet mân. Y lliw gwyrdd yw’r ffos fas sy’n amgáu’r anheddiad. Dde: Arolwg Radar Treiddiol sy’n dangos y porth mynediad pedair postyn, gydag arwyneb wedi’i gribo yn rhedeg drwy’r fynedfa talp 60-80 cm o dan yr wyneb, sy’n dangos y ddwy ffos fas sy’n amgylchynu’r anheddiad yn bennaf.

Mae Meillionydd yn anheddiad o Oes yr Haearn sydd heb unrhyw grochenwaith. Mae’r llun hwn yn dangos detholiad o ddarnau o glai wedi’u llyfnhau a ddefnyddiwyd i leinio nodweddion, aelwydydd a waliau ar yr anheddiad (llun: Nebu George).

Chwith: Cynllun o glostir cylchfur dwbl o'r Oes Haearn Gynnar i Ganol yr Oes Haearn, Cam 3a, gyda lleoliad adfer glain gwydr wedi’i addurno. Gwaelod Dde: Adeiladwyd tŷ crwn cerrig (neu warchoddy) fel un gyda’r clawdd allanol ac fe’i lleolir yn union wrth ymyl y fynedfa allanol.

Y tŷ mynediad (neu’r gwarchoddy) wedi’i adeiladu yn y clawdd allanol ac wedi’i leoli wrth ymyl y fynedfa allanol.

Cynllun yn dangos y tai crynion a adeiladwyd yng Ngham 3b (cylchoedd coch) a oedd yn rhwystro’r fynedfa fewnol, ar ddiwedd yr Oes Haearn Canol. Ar y pryd, mae’n debyg bod y setliad yn un agored.

Pestl carreg i’w ddefnyddio mewn morter (Llun: Natasha Sellers).

Y darn o fodrwy jet. Y naill ffordd neu’r llall, mae wedi gwisgo ac roedd y darn wedi cael ei gadw am gyfnod hir cyn ei ddyddodi yn y pen draw fel sylfaen a oedd yn marcio mynedfa Cam 2 (Llun: Nebu George).

Glain gwydr gwyrdd-glas addurnedig o borthdy Cam 3a (Llun: Nebu George).

Mae’r casgliad o’r gistfaen gladdu yn un o’r tai crynion olaf yn anheddiad Cam 3b (Lluniau: Natasha Sellers).

Y casgliad o droellwyr a gafodd eu casglu ym Meillionydd. Gwŷdd pwysau wedi’i addurno yw’r gwrthrych ar y dde isaf (Llun: Nebu George).

Troellwyr plwm o Feillionydd (Lluniau: Natasha Sellers).

Maen melin gyda charreg rwbio wedi’i chanfod ar ei ben.

David Chapman o’r Celfyddydau Hynafol wedi ailadeiladu lamp gynhanesyddol.