Teithlyfr Abertawe a Gŵyr

Gogoniant glannau Cymru

Os ydych chi’n treulio cwpl o ddyddiau yn ail ddinas Cymru, mae llawer o safleoedd hanesyddol mae’n rhaid i chi eu gweld yn yr ardal gyfagos.

Mae treftadaeth forol ac arfordiroedd trawiadol Abertawe a Phenrhyn Gŵyr yn werth eu gweld. Hefyd, mae baeau hardd a chasgliad godidog o gestyll i’w darganfod ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar Benrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU a char tref i Gestyll Oxwich a Weble. Ymhellach i’r gorllewin gwelir Castell Cydweli yn edrych draw dros Afon Gwendraeth. Mae hyn i gyd a mwy dafliad carreg o ddinas Abertawe. Bum munud o ganol dinas Abertawe, yn Ardal Forol Abertawe, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n adrodd stori diwydiant ac arloesi yng Nghymru, nawr ac yn ystod y 300 mlynedd diwethaf.


Map Taith

Mae’r siwrnai o Abertawe i Weblai ychydig o dan 30 munud mewn car, ac yn 45 munud o Abertawe i Gydweli.


Darganfyddwch fwy o safleoedd Cadw yn ne Cymru

O’r chwith i’r dde: Abaty Nedd a Siambr Gladdu Parc le Breos

Ymhlith y safleoedd eraill i gadw llygad amdanyn nhw mae Abaty Nedd a Siambr Gladdu Parc le Breos


Gwybodaeth am fynediad

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau   |  Castell Weble | Castell Oxwich |  Castell Cydweli 

Mwy o wybodaeth