
Poblogaethau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Cymru.
Mae stori'r Teithwyr, y Sipsiwn, ac, yn fwyaf diweddar, y Roma yng Nghymru yn un sy'n mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Tua 350AD, roedd yr Ymerodraeth wedi adeiladu prifddinas newydd yn y dwyrain ac nid oedd ei chyrion mwyaf gorllewinol (Cymru) o bwys mawr bellach i'r ymerawdwyr a'u llywodraethwyr. Roedd y Gaeliaid o Iwerddon yn ysbeilio ac yn masnachu gyda thiriogaethau gorllewinol Prydain Rufeinig - gan deithio ar draws môr Iwerddon mewn cychod â hwyliau a rhwyfau. Y bobl hyn oedd cyndeidiau Teithwyr Gwyddelig heddiw.
Yn y ddeuddegfed ganrif daeth "Eifftiaid" - Sipsiwn - i ddinas enwog Byzantium. Yn ôl y sôn roedd ganddynt bwerau dewiniaeth hud a lledrith, a thybiwyd ar gam mai pobl pharo’r Beibl oedd y teithwyr hyn. Dros y canrifoedd canlynol fe deithion nhw ar draws Ewrop cyn dod i Gymru yn y 1570au. Cyrhaeddodd ymfudiadau diweddarach o "Eifftiaid" ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif, gan sefydlu llwythau'r Sipsiwn Cymreig a dod â thraddodiadau cerddorol ac adrodd straeon gyda nhw a gafodd eu plethu drwy bob rhan o ddiwylliant Cymru.
Teithwyr Gwyddelig
Mae gwreiddiau'r gymuned gynharaf ymhlith y bobl Romani a Theithwyr, y Teithwyr Gwyddelig, i'w gweld ymhlith y grwpiau a elwir yn na lucht siúil, sef y bobl sy'n cerdded. Roedd y grŵp hwn yn bodoli y tu allan i strwythur ffurfiol cymdeithas Wyddelig yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd 'na lucht siúil' yn cynnig sgiliau a nwyddau arbenigol i gymunedau Gwyddelig sefydledig - gwaith metel, meddyginiaethau llysieuol a 'hysbys' (meddyginiaeth werin), gwneud basgedi a masnachu ceffylau, er enghraifft – ond nid oeddent yn rhan o'r we gymhleth o berthnasoedd a oedd yn clymu'r uchel frenhinoedd, yr is frenhinoedd a'r penaethiaid.
Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd y sail ar gyfer y Mincéirí ethnig modern wedi dod i'r amlwg, gyda'u diwylliant unigryw eu hunain ac economi a oedd yn dibynnu ar fasnach gyda'r poblogaethau anghrwydr mewn marchnadoedd arbenigol. Roedd y Mincéirí, a elwid yn Pavée hefyd, yn wahanol o ran crefydd hefyd, ac yn dilyn math penodol o Gatholigiaeth a oedd yn addoli'r Forwyn Fair fel "Brenhines y Nefoedd" a "Brenhines y Sipsiwn”.
Cafodd y boblogaeth ei dylanwadu hefyd gan briodasau rhyngddi â'r gymuned Romani a'r 'Gwyddelod Du' fel y'u gelwid – disgynyddion y Moriscos Sbaenaidd (cyn-Fwslimiaid a oedd wedi cael eu gorfodi i droi’n Gristnogion neu gael eu halltudio) a gafodd eu golchi ar lannau Iwerddon yn dilyn llongddrylliad yr Armada ym 1566.
Ar ôl i Cromwell feddiannu Iwerddon yn yr ail ganrif ar bymtheg ymfudodd llawer o'r Mincéirí Gwyddelig i Gymru, ac yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i ddiwydiant ac economi Cymru ehangu, parhaodd y symud rhwng Iwerddon a Chymru.
Roedd ymfudwyr yn wynebu gelyniaeth yn aml – o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, roedd capteiniaid llongau'n cael eu dirwyo os oeddent yn glanio ym mhorthladdoedd Cymru gyda theithwyr o Iwerddon, ac mae sôn am bentrefi yn y Cymoedd yn gosod rhwystrau ar draws y ffyrdd i atal Teithwyr Gwyddelig
Mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod 1000 – 1500 o bobl o dras Teithwyr Gwyddelig yn byw yng Nghymru heddiw.
Romani
Yr ymfudiad cyntaf o'r boblogaeth Roma fodern i Gymru oedd mewnlifiad y Sipsiwn Gofaint Copr fel y'u gelwir, a ddaeth i Gymru o Lerpwl ym 1906.
Rodd Sipsiwn Gofaint Copr yn hanu o Romania a, hyd at y 1860au, roeddent yn gaethweision yn nhywysogaethau Moldova a Wallachia (sy'n rhan o Romania erbyn hyn).
“Dim ond fel caethweision y genir sipsiwn; bydd unrhyw un a anwyd o fam sy'n gaethferch yn dod yn gaethwas hefyd..." oedd y geiriau yng nghod Wallachia ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac roedd y Romani'n eiddo i'r Tywysog, i fynachlogydd ac i unigolion preifat. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, diddymwyd caethwasiaeth gan ddod â chanrifoedd o gaethiwed i ben a mudodd llawer o'r Romani ar draws Ewrop.
Wrth gyrraedd Cymru, nid oedd fawr o groeso iddynt yn aml. Byddai'rheddlu'n cadw llygad barcud arnyn nhw am fod yr awdurdodau'n eu gweld fel "niwsans", a byddent yn cael eu hebrwng yn ôl i Loegr, cyn cael eu hallgludo o Hull. Aeth llawer oddi yno i Ganada a'r Unol Daleithiau neu ddychwelyd i dir mawr Ewrop.
Ychydig iawn o Roma a deithiodd i Gymru rhwng y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ond daeth llif bach o unigolion yn sgil yr ail ryfel byd a'r Holocost Romani; y porrajmos - y Difa.
Yn aml, nid oedd y rhai a siaradai am brofiadau erchyll o hil-laddiad yn cael eu credu, neu weithiau barnwyd mai ceisio iawndal oeddent ac fe’u diystyrwyd. Fodd bynnag, hyd yn oed ar y pryd roedd rhai ysgolheigion yn cydnabod gwirionedd yr hanesion; bod y boblogaeth Sipsiwn, ochr yn ochr â'r Iddewon, yn wynebu difodiant ar sail eu hil.
Yn y cyfnod diweddar mae’r rhan fwyaf o Roma sydd wedi mudo i Gymru yn deillio o diroedd Tsiecaidd a Slofacaidd yn bennaf, gyda nifer llai yn dod o Fwlgaria, Hwngari, Serbia, Kosovo a Bosnia. Roedd rhai yn ffoi’r rhyfel yn y Balcanau drwy gydol y 1990au, roedd eraill yn mudo i ddianc rhag ofn a gormes yn eu cartrefi gwreiddiol.
Heddiw, mae llawer o boblogaeth fodern Sipsiwn Cymru wedi symud i dai, ond mae eraill yn parhau i deithio ledled y Deyrnas Unedig.
Mae poblogaeth bresennol Cymru sy’n byw mewn carafanau yn cynnwys Teithwyr Gwyddelig ac, yn y De, disgynyddion priodasau rhwng Sipsiwn Cymreig a Seisnig.
Yn aml disgrifir Sipsiwn Seisnig fel Romanichals mewn llenyddiaeth Astudiaethau Romani, tra bod Sipsiwn Cymreig yn cael eu hadnabod fel Kalé gan ysgolheigion, ac maent yn perthyn i gymunedau Romani yn Ewrop, megis y Kaale yn y Ffindir a'r Caló yn Sbaen.
Mae'r map isod yn dangos ambell le sy'n arwyddocaol yn hanes poblogaeth Romani Cymru.
Bydd mwy o safleoedd yn cael eu hychwanegu dros amser.