Teithlyfr y Brifddinas
Y safleoedd hanesyddol hanfodol ar gyrion Caerdydd
Os ydych chi’n treulio ychydig ddyddiau yn y brifddinas, mae yna nifer fawr o safleoedd hanesyddol yn yr ardal y mae’n rhaid ichi eu gweld.
Ychydig dros ugain munud yn y car o ganol Caerdydd gallwch weld Castell Caerffili, lle mae un tŵr yn fwy cam na thŵr Pisa, neu gallwch weld nenfydau a dodrefn anhygoel y rhyfeddol Gastell Coch. Ychydig ymhellach i mewn i’r Cymoedd gallwch grwydro Safle Treftadaeth Byd Gwaith Haearn Blaenafon, neu brofi bywyd Rhufeinig ym Maddonau Rhufeinig Caerllion. Rydych yn siŵr o gael diwrnod allan i’w gofio...
Map Taith
Rhyw 15 munud yw amser y siwrnai o Gaerdydd i Gastell Coch, 20 munud i Gaerffili, 30 munud i Gaerllion a 45 munud i Flaenafon.
Cewch eich ysbrydoli gan yr hyn y gallwch chi ei weld a’i wneud yn ne Cymru…
Darganfyddwch fwy o safleoedd Cadw yn ne Cymru
Ymhlith y safleoedd eraill i edrych amdanyn nhw mae Tref Rufeinig Caer-went a Llys a Chastell Tretŵr.
Gwybodaeth am fynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.