Taith y Rhufeiniaid

Hanes Rhufeinig chwedlonol Cymru

De Ddwyrain Cymru yw prifddinas Rufeinig Cymru. Mae Caerllion yn bentref maestrefol ar lan Afon Wysg, ychydig i’r gogledd o ddinas Casnewydd.

Dyma leoliad o bwysigrwydd archeolegol mawr — yn gar tref i gaer Rufeinig a bryngaer o’r Oes Haearn, sy’n golygu bod ganddo gyfoeth o hanes Rhufeinig.

Mae Caerllion yn gar tref i atyniadau twristaidd gan gynnwys Caer a Baddonau Rhufeinig, sy’n cynnwys yr amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain, darnau o waliau’r gaer a’r unig weddillion o farics llengfilwyr Rhufeinig sydd i’w gweld yn unrhyw le yn Ewrop.

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i’w gweld y tu mewn i weddillion y gaer ac mae’n cynnwys llawer o ar teffactau o’r cyfnod Rhufeinig. Ychydig dros 20 munud i ffwrdd mae Tref Rufeinig Caerwent, paradwys i archeolegwyr.


Map Taith

1

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Bywyd moethus a gwaedlyd y gaer Rufeinig.

2

Tref Rufeinig Caerwent

Cipolwg ar dref farchnad wedi’i Rhufeinio.

3

Caer Rufeinig Segontium

Cadarnle Rhufeinig a ddaeth yn rhan o chwedl Gymreig.

Amser teithio mewn car

Mae’r siwrnai o Gaerdydd i Gaerllion yn 30 munud yn y car, ac o Gasnewydd i Gaerllion yn 15 munud. Mae'n cymryd 20 munud i yrru o Gaerllion i ddinas Rufeinig Caerwent a dim ond ryw awr i ffwrdd yw Caerfaddon.


Y Rhufeiniaid yng Nghymru

Ymweld â Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Caerllion yw un o’r safleoedd Rhufeinig mwyaf amrywiol a rhyfeddol ym Mhrydain, gan gynnwys Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, amffitheatr sydd wedi’i gwarchod yn dda a rhes o flociau barics — yr unig enghreifftiau sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn Ewrop.

Gydag ystafelloedd newid cynnes, dewis o faddonau oer neu boeth, ystafelloedd ymarfer dan do a phwll nofio awyr agored hyd yn oed, mae’r gweddillion sydd i’w gweld yn glir yng Nghaerllion yn awgrymu bod bywyd Rhufeinig ar adegau’n gyfforddus ac yn foethus.

Gall ymwelwyr gamu’n ôl mewn amser a gweld hanes yn dod yn fyw drwy dechnoleg fodern, gan gynnwys gemau sgrin cyffwrdd animeiddiedig a sioe sain a goleuo i ddangos lluniau nofwyr 3D yn defnyddio’r baddonau, yn ogystal â phanelau gwybodaeth, tapiau sain a ffilmiau mud doniol.

Ymweld â Tref Rufeinig Caerwent

Mae Tref Rufeinig Caerwent yn bentref a chymuned yn Sir Fynwy, tua phum milltir i’r gorllewin o Gas-gwent ac un filltir ar ddeg i’r dwyrain o Gasnewydd.

Cafodd ei sefydlu’n wreiddiol gan y Rhufeiniaid fel tref farchnad Venta Silurum, aneddiad llwythol llwyth y Silwriaid Brythonaidd.

Parhaodd yn amlwg drwy gydol oes y Rhufeiniaid a’r Oesoedd Canol Cynnar fel safle croesffordd rhwng sawl canolfan ddinesig bwysig.

Mae’r pentref modern wedi’i adeiladu o amgylch yr adfeilion Rhufeinig sydd yno o hyd, gan gynnwys waliau trawiadol o’r bedwaredd ganrif sydd hyd at 17 troedfedd (5.2m) o uchder, tai wedi’u cloddio, fforwm-basilica a teml Rufeinig-Brydeinig.

Mae ardal ysguboriau’r Porth Gorllewinol yn darparu maes parcio, mynedfa ar dir gwastad i doiled a phanelau gwybodaeth.

Ymweld â Caer Rufeinig Segontium

Sefydlwyd y gaer hon, gafodd ei lleoli’n strategol ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig, bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac am dros dri chan mlynedd bu’r lle yn ferw o fywyd.

Seiliwyd Segontium gan Agricola yn OC77 wedi iddo lwyddo’n giaidd i rwystro gwrthryfel gan y llwyth brodorol a elwid yr Ordofigiaid. Roedd y gaer, a fwriadwyd ar gyfer dal catrawd o 1,000 o filwyr traed cynorthwyol, wedi’i chysylltu â'r prif ganolfannau llengol yng Nghaer a Chaerllion gan ffyrdd Rhufeinig.

Diolch i ddarnau arian a gloddiwyd, gwyddom fod y Rhufeiniaid wedi aros tan tua 394 OC – ni chafodd unrhyw gaer arall yng Nghymru ei dal am gyhyd.

Roedd Segontium nid yn unig yn rheoli mynediad i Fôn ffrwythlon a mwynol gyfoethog, ond yn ddiweddarach bu’n gyfrwng i amddiffyn arfordir Cymru rhag môr-ladron Gwyddelig.

Ymhell wedi ymadawiad olaf y llengoedd, daeth Segontium yn rhan o chwedloniaeth y Cymry dan yr enw Caer aber Seint – ‘y gaer wrth geg afon Seiont' – a cheir cyfeiriad ati yn ‘Breuddwyd Macsen Wledig’, un o chwedlau hynafol y Mabinogi.

© 7reasons Medien GmbH /  www.7reasons.net 

Dolaucothi

Dolaucothi ym Mhumsaint, yr unig safle ym Mhrydain lle gwyddom yn bendant fod y Rhufeiniaid wedi cloddio am aur. Mae system helaeth Dolaucothi o draphontydd dŵr yn esiampl ddisglair o hyd o arbenigedd peirianneg y Rhufeiniaid.

Ewch i wisgo eich bŵts a darganfod unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.


Mwy o wybodaeth