Trysorau'r Filltir Sgwâr
Haenau o Dirwedd ym Mhwll Glo Fernhill
Mae Treftadaeth Ddisylw? yn brosiect a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a’i nod yw annog pobl ifanc i ymwneud â threftadaeth. Rydym yn canolbwyntio ar safleoedd lleol nad ydyn nhw, at ei gilydd, yn cael y sylw maen nhw’n ei haeddu. Nid y cestyll mawr na’r atyniadau pwysig i dwristiaid, nid y plastai na’r gerddi enwog, ond treftadaeth o’r 19eg a’r 20fed ganrif sydd o’n cwmpas ym mhob man. Yn aml, ni sylwir ar y dreftadaeth hon ac ni chaiff ei gwerthfawrogi’n ddigonol, ond mae’n siapio’r trefi, y dinasoedd a’r pentrefi sydd i’w cael ledled Cymru. Mae ynghudd yng ngolwg pawb.
Ym Mlaenrhondda, roedd ein grŵp Treftadaeth Ddisylw? yn cynnwys pobl ifanc o Plant y Cymoedd a fu’n gweithio gyda staff Cadw i archwilio a dehongli Stryd Caroline a Phwll Glo Fernhill sydd bellach wedi’u dymchwel, yn ogystal â chanfod mwy am fyw a gweithio yno. Gyda help DigVentures, mae un grŵp wedi creu ffilmiau a bydoedd Minecraft yn adrodd ein straeon. Hoffem sôn wrthych yn sydyn am ein prosiect a rhai o’r pethau mae’r bobl ifanc wedi bod yn eu gwneud.
Heddiw, wrth edrych i lawr ar draws y cwm, prin yw olion y pwll glo a’r tai a arferai sefyll yno hyd dri degawd yn ôl. Ar ôl i’r adeiladau gael eu dymchwel ac ar ôl i’r tomenni glo a’r tomenni sbwriel gael eu tirlunio, ar yr olwg gyntaf ni cheir fawr ddim o hanes y gorffennol.
Ond does dim rhaid i chi graffu’n rhy fanwl i ddod o hyd i dystiolaeth o’r gorffennol. Isod, fe welwch awyrlun o 2014 a rhan o fap o’r 1950au. Mae’n dangos yn glir faint o adeiladau a nodweddion a oedd i’w cael yn y dirwedd hon hyd yn gymharol ddiweddar.
Penderfynodd y bobl ifanc y bydden nhw’n hoffi ail-greu rhannau o’r dirwedd trwy ddefnyddio Minecraft. Roedden nhw eisiau i hyn gael ei seilio ar beth oedd yno mewn gwirionedd ar y safle, felly fe aethon nhw ati i chwilio am gymaint o wybodaeth â phosibl. Gan ganolbwyntio ar Stryd Caroline, fe wnaethon nhw ddefnyddio amrywiaeth eang o wahanol dechnegau a ffynonellau i greu darlun o fywyd ar y stryd.
Gyda’r wybodaeth hon i gyd – dogfennau, tystiolaeth ffisegol a straeon – fe wnaethon ni ddechrau “ail-greu” rhai o dirweddau Pwll Glo Fernhill a Stryd Caroline.
Mae gan yr ardal amryfal haenau o dirwedd. Y byd modern, y pwll glo a’r ffermydd a oedd yno cyn y lofa. Fe wnaethon ni ychwanegu haen arall – haen rithwir. Yn Minecraft, gallwch archwilio’r adeiladau nad ydyn nhw yno mwyach.
Blaenrhondda fel mae ar hyn o bryd
Ac fel yr oedd yn y 1950au
Ac fel mae rhannau o’r ardal yn Minecraft
Os nad ydych chi eisiau cerdded, gallwch gael lifft ar Gert Minecraft ...
A gallwch gael cipolwg dan y ddaear hefyd
Er bod yr ardal yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dod yma i fynd â’u cŵn am dro neu fynd ar eu beic, a dydyn nhw ddim bob amser yn gweld neu’n deall bod yr olion yma o hyd.
Stryd Caroline heddiw
Photo © Chris Allen ( cc-by-sa/2.0 )
Y tro nesaf y byddwch yn cerdded yn yr ardal, cofiwch beth sydd dan eich traed
I gael mwy o wybodaeth am sut le oedd Pwll Glo Fernhill, cymerwch gipolwg ar y casgliad hwn o luniau sy’n dangos rhai o’r adeiladau, y strwythurau a’r peiriannau.
Ar ôl eu hymchwil a’u gwaith i gyd, ac ar ôl sylweddoli cymaint roedden nhw wedi’i ddarganfod, roedd ein pobl ifanc o’r farn ei bod hi’n bwysig i rai o’r straeon a’r atgofion am y dirwedd gael eu cyfleu’n ehangach. Wedi’r cyfan, heb y pwll glo a’r bobl a arferai fyw a gweithio ynddo ac o’i amgylch, fe fyddai’r ardal yn hollol wahanol i’r hyn yw hi heddiw. Felly, rydym wrthi’n dylunio paneli dehongli i’w gosod ar y safle, er mwyn i bawb sy’n cerdded ar y safle ac sy’n dod yma am dro allu dysgu rhywfaint am yr hanes. Fel y dywedodd un o’r rhai a gymerodd ran yn y prosiect:
Mae’r byrddau bron fel pe baen ni’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r bobl a arferai fyw yma
Gan weithio gyda darlunydd ifanc, rydym wedi dylunio pump o gymeriadau ar sail yr hyn a ddysgon ni. Bydd y cymeriadau hyn yn ymddangos ar y byrddau, gan ddweud wrth bobl am wahanol rannau o’r safle ar adegau gwahanol yn ei hanes. Cewch fwy o wybodaeth amdanyn nhw yn ein Map Stori nesaf, ar ôl i’r byrddau dehongli gael eu cwblhau.
Rydym yn ychwanegu ein helfen fodern ein hunain at haenau’r dirwedd yn Fernhill.
Artist: Bea Whitney-Leggatt