Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru

Golwg tirlun o Gymru
Gwaelod dyffryn dan lifogydd
Tir wedi'i losgi ar safle archaeolegol Twmbarlwm

Astudiaethau Achos

Mae'r map isod yn cynnwys mynegai o nifer o astudiaethau achos, gan ddangos ffyrdd gwahanol o addasu i hinsawdd sy'n newid. Mae gan bob cofnod ddolen i ddisgrifiad manylach. Bydd clicio 'nôl i'r map' ar bob cofnod yn eich dychwelyd i'r mynegai hwn.

Dros amser, bydd mwy o astudiaethau achos yn cael eu hychwanegu at y map.

Cysgodfan Bathrock

Plas Newydd

Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd

Dinas Dinlle

Waun Fignen Felen

Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Mwynglawdd Plwm Fron Goch

Plas Cadnant

Twmbarlwm

Caerwent Meadows

Capel Sant Padrig

Ffordd Rufeinig Bwlch y Ddeufaen

Llongddrylliad y "Bronze Bell"

Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel y Creuddyn

Henebion Arfordir Penfro

Adfer Mawndir Llyn Efyrnwy

Cysgodfan Bathrock

Difrod a achoswyd gan: Stormydd, moroedd cythryblus, llanw uchel

Addasiad: Cofnodi ffotograffig, adfer ac adsefydlu

Plas Newydd

Difrod a achoswyd gan: gwyntoedd cryfion, glaw trwm, llifogydd, difrod storm

Addasiad: cynlluniau brys gwell, newid trefniadau draenio a chynnal a chadw

Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd

Difrod a achoswyd gan: rhywogaethau ymledol yn lledaenu, difrod storm, tanau gwyllt

Addasiad: plannu rhywogaethau mwy amrywiol, rheoli safleoedd archaeolegol

Dinas Dinlle

Difrod a achoswyd gan: erydiad arfordirol, glaw trwm

Addasiad: arolwg ac ymchwiliad archaeolegol, "croesawu'r anochel"

Waun Fignen Felen

Difrod a achoswyd gan: corsydd mawn yn sychu ac erydu, olion archaeolegol bregus yn dod i'r amlwg

Addasiad: adfer cynefinoedd, ail-wlychu, asesiad archaeolegol

Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Difrod a achoswyd gan: pridd dwrlawn, tirlithriadau

Addasiad: atgyweiriadau, atgyfnerthu lle bo angen, ymchwilio a deall y problemau'n well

Mwynglawdd Plwm Fron Goch

Difrod a achoswyd gan: gaeafau gwlypach a thywydd mwy eithafol yn cynyddu llygredd o ddŵr y mwynglawdd

Addasiad: cofnodi archaeolegol, rheoli dŵr, sefydlogi gwastraff halogedig

Plas Cadnant

Difrod a achoswyd gan: glaw trwm, llifogydd

Addasiad: atgyweirio, gan ail-ddylunio nodweddion allweddol

Twmbarlwm

Difrod a achoswyd gan: tanau gwyllt, erydiad gan wynt a glaw

Addasiad: ail-hadu glaswelltir, asesiad archaeolegol, cynllun rheoli ar gyfer porfa wair

Caerwent Meadows

Difrod a achoswyd gan: rhywogaethau ymledol ar gynnydd, tymor tyfu hirach

Addasiad: Newid dull rheoli tir i gynhyrchu glaswelltir llawn rhywogaethau, cynyddu mynediad ac addysg

Capel Sant Padrig

Difrod a achoswyd gan: erydu arfordirol, difrod stormydd, lefelau'r môr yn codi

Addasiad: cloddio archaeolegol cyn colled anochel, dehongli'r safle

Ffordd Rufeinig Bwlch y Ddeufaen

Difrod a achoswyd gan: llifogydd, mwy o stormydd, defnydd hamdden

Addasiad: atgyweirio nodweddion rheoli dŵr hanesyddol, adfer arwyneb yn rhannol

Llongddrylliad y "Bronze Bell"

Difrod a achoswyd gan: rhywogaethau ymledol, newid mewn pH dŵr, mwy o gynnwrf dŵr

Addasiad: casglu data, cofnodi cywir, ymgysylltu â'r cyhoedd

Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel y Creuddyn

Difrod a achoswyd gan: Glaw sy’n cael ei yrru gan y gwynt a mwy o leithder, gwyntoedd cryfion mynych, stormydd a digwyddiadau gwres / oerni

Addasiad: Gweithredu cymunedol, atgyweirio a gwella

Henebion Arfordir Penfro

Difrod a achoswyd gan: cynnydd yn lefel y môr, y gorchudd o lystyfiant yn cynyddu / ymledu, mwy o bwysau gan ymwelwyr, glaw trwm am gyfnod hir yn arwain at dirlithriadau, dadsefydlogi ac ymsuddiant

Addasiad: mapio a monitro'r adnodd, rheoli tir wedi'i dargedu a'i flaenoriaethu

Adfer Mawndir Llyn Efyrnwy

Difrod a achoswyd gan: Sychu gan achosi ansefydlogi / erydu strwythurau pridd, rhywogaethau ymledol ac estron yn cynyddu ac yn ehangu, gostwng lefel trwythiad, mwy o risg o erydu

Addasiad: Adfer mawndir, mapio a monitro, hyfforddiant ac arweiniad

Casglu Data a Dealltwriaeth ledled Cymru

Er mwyn addasu i hinsawdd sy'n newid, mae angen i reolwyr tir ac eiddo allu gwneud rhagfynegiadau rhesymol ynglŷn â beth allai effeithiau'r newidiadau fod. Mae hyn yn golygu nid yn unig modelu beth allai amodau hinsoddol fod yn y dyfodol, ond hefyd sut y bydd gwahanol fathau o adeiladau ac adeiladwaith yn ymateb iddynt.

Anheddau domestig yng Nghymru

Mae newid hinsawdd nid yn unig yn cynyddu'r risgiau i wead adeiladau ond hefyd i iechyd a chysur preswylwyr yr adeilad oherwydd newidiadau i’r ansawdd amgylcheddol dan do. Felly, rhaid gwella ansawdd, dylunio a dulliau gweithredu adeiladau ledled y DU er mwyn mynd i'r afael â heriau tymheredd uwch a gwynt a glawiad mwy amrywiol. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, sydd â chyfran uchel o dai hŷn.

Stoc dai traddodiadol yn ne Cymru

Yn 2021, cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Colorado a Resilient Analytics, waith modelu bregusrwydd hinsawdd ar gyfer adeiladau domestig yng Nghymru. Y nod oedd darganfod mwy am y risgiau y mae newid hinsawdd yn eu hachosi i wahanol fathau o anheddau domestig.

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau'r stoc dai traddodiadol a mathau mwy newydd o adeiladu - sy'n golygu bod perchnogion adeiladau'n fwy gwybodus ac mewn sefyllfa well i newid diwyg mewnol, gwneud newidiadau i ffabrigau eu hadeilad, mabwysiadu strategaethau oeri ac awyru adeiladau priodol ac addasu eu hymddygiad mewn ymateb i newid hinsawdd.

Gellir darllen yr adroddiad llawn  yma  .

Mapio Perygl Hinsawdd

Fel tirfeddiannwr mawr, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwybod y bydd effeithiau newid hinsawdd yn effeithio ar ei dir a'i eiddo. Er mwyn addasu, mae angen i'r Ymddiriedolaeth ddeall peryglon hinsawdd presennol ac ystyried y rhai y gallai eu hwynebu yn y dyfodol. Mae'r peryglon hyn yn troi'n fregusrwydd ac effeithiau posibl nid yn unig i dir ac eiddo'r Ymddiriedolaeth, ond hefyd ar ei weithgareddau ei hun a rhai pobl eraill sy'n defnyddio safleoedd ac adnoddau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Er mwyn cyflawni'r ddealltwriaeth hon, nododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr angen i ddod ag amrywiaeth o setiau data gwahanol ynghyd gan dynnu sylw at wahanol risgiau sy'n gysylltiedig ag effeithiau newid hinsawdd. Yr her yw bod llawer o'r setiau data hyn wedi'u datblygu'n annibynnol ar ei gilydd a heb eu cynllunio i'w gweld trwy un porth.

Gan weithio gydag ymgynghorwyr a phartneriaid amrywiol, datblygwyd map gwe Peryglon Hinsawdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hyn yn seiliedig ar fapio gwahaniaeth - ateb y cwestiynau "Sut bethau yw ffactorau hinsawdd heddiw?" ac yna "sut bethau fydd y ffactorau hynny yn 2060 mewn senario sefyllfa waethaf?". Mae hyn yn galluogi rheolwyr safleoedd ledled y DU i weld effeithiau a ragwelir ar gyfer eu hardaloedd a datblygu addasiadau priodol.

 

Rhoddir mwy o fanylion am bob un o'r astudiaethau achos sydd wedi'u mapio isod. Neu gallwch ddychwelyd at y map  yma. 


Aberystwyth - Cysgodfan Bathrock

Yn gynnar ym mis Ionawr 2014, cafodd promenâd Aberystwyth ei daro gan un storm ar ôl y llall. Cafodd llawer o strwythurau eu difrodi'n ddifrifol, gan gynnwys Cysgodfan Bathrock, strwythur rhestredig gradd II, sy'n dyddio o'r 1920au. Roedd y storm a'r môr cythryblus a achoswyd ganddi, ynghyd â llanw uchel iawn, wedi torri'r bastiwn yr oedd y cysgodfan yn eistedd arno gan ddatgelu sylfeini waliau baddondy cynharach, sy'n gysylltiedig â'r Baddonau Morol a adeiladwyd gan Doctor Rice Williams Ysw ym 1810. Golchwyd deunydd rhydd ymaith, a oedd wedi'i ddefnyddio fel llenwad i'r bastiwn, gan greu gwagle a arweiniodd at gwymp rhannol ac ymsuddiant Cysgodfan Bathrock. 

Chwith: Cysgodfan Bathrock a ddifrodwyd gan storm yn 2014. Dde: Olion y baddondy a ddatgelwyd o dan y cysgodfan

Addasiad: ystyried arwyddocâd cyffredinol y cysgodfan a'i rôl yng nghymeriad glan y môr Aberystwyth. Gwnaed y penderfyniad i adfer y nodwedd, felly cafodd ei hadfer yn ofalus gan Gyngor Sir Ceredigion. Gwnaed gwaith cofnodi brys, gan gynnwys ffotograffiaeth fanwl, gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru fel bod cofnod parhaol o'r strwythur gwreiddiol.

Mae'r strwythur adferedig wedi'i adeiladu dros wal fôr gryfach sydd wedi'i hail-beiriannu, gan ei gwneud yn fwy gwydn i wrthsefyll stormydd yn y dyfodol.


Plas Newydd

Mae Plas Newydd yn adeilad rhestredig gradd I ac yn Amgueddfa Achrededig sydd wedi'i leoli mewn parc a gardd hanesyddol gofrestredig gradd I. Mae yna strwythurau rhestredig eraill a heneb gofrestredig, siambr gladdu Plas Newydd, yn y gerddi. Ar Ŵyl San Steffan 2015 cafwyd gwyntoedd cryf a glaw trwm yn Ynys Môn. Daeth dŵr llifogydd i mewn i'r seler lle'r oedd y prif banel switsys trydan wedi'i leoli. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i gyrraedd canol rhywun ac er na chafodd dim o'r casgliad na strwythur yr adeilad eu niweidio'n ddifrifol, difrodwyd cyflenwad trydan y plasty i'r graddau nad oedd modd ei drwsio. O ganlyniad, roedd y plasty heb bŵer llawn am gyfnod o bedair wythnos, bu'n rhaid gwagio fflatiau staff a chyflogwyd cwmni diogelwch preifat tra bod yr adeilad yn wag. Fel mesur dros dro, gosodwyd bagiau tywod i ddargyfeirio'r llifogydd i ddraen, ac ers hynny mae rhwyll wedi'i osod yn lle gorchudd y draen. Ym mis Tachwedd 2017 bu storm arall, fwy difrifol. Y tro hwn, fodd bynnag, bu difrod gwynt a dŵr mwy helaeth i'r gerddi o amgylch y plasty gyda thirlithriadau yn arwain at golli llwybrau a difrod storm i goed.

Chwith: Dŵr yn treiddio i'r seler. Canol: Difrod i'r llwybrau. Dde: Dŵr llifogydd yn cael ei sianelu ar hyd y ffos gudd.

Addasiad: Mae cynllun argyfwng mwy cadarn wedi'i roi ar waith, symudwyd panel switsys y prif gyflenwad trydan ac adolygwyd y trefniadau draenio a chynnal a chadw i wella'r broses o liniaru effeithiau llifogydd/storm a mesurau amddiffyn. Dangoswyd effeithiolrwydd y cynllun hwn ym mis Tachwedd 2017. Er bod dŵr llifogydd wedi mynd i mewn i'r seler unwaith eto, ac wedi cyrraedd y tŷ ei hun, sicrhaodd y cynllun argyfwng bod y pŵer wedi cael ei ddiffodd cyn i'r cyflenwad gael ei ddifrodi. Yn dilyn stormydd mis Tachwedd, cynhaliwyd arolwg manylach i edrych ar opsiynau pellach ar gyfer lliniaru llifogydd a mesurau amddiffyn. Mae rheoli llain cysgodi ar dir cyfagos wedi cael ei drafod hefyd i helpu i atal difrod pellach gan wyntoedd.


Waun Fignen Felen

Yn ogystal â bod yn bwysig i fioamrywiaeth, mae corsydd yn bwysig yn archaeolegol hefyd. Gall yr amgylchedd dwrlawn a heb ocsigen gadw deunydd organig am filoedd o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu y gellir adfer tystiolaeth o amgylcheddau'r gorffennol - olion paill a phlanhigion, er enghraifft, sy'n galluogi archaeolegwyr i ail-greu fflora a ffawna ardal. Gall tecstilau, pren a lledr gael eu cadw hefyd, sydd prin i'w gweld mewn safleoedd archaeolegol eraill. O bryd i'w gilydd, gall fod olion anifeiliaid neu bobl mewn corsydd sydd wedi eu cadw mewn cyflwr rhagorol.

Cors ucheldirol yw Waun Fignen Felen, ac mae'n safle archaeolegol Mesolithig arwyddocaol. Mae'n lle a ddefnyddiwyd dros sawl mileniwm fel lleoliad hela gan boblogaethau oedd yn manteisio ar yr ucheldiroedd. Ymhlith y darganfyddiadau a wnaed yno mae offer ac arteffactau yn ogystal â siarcol a thystiolaeth o amodau amgylcheddol y gorffennol.

Mae Waun Fignen Felen wedi bod yn sychu'n araf drwy gydol yr ugeinfed ganrif, ond mae effeithiau newid hinsawdd wedi cyflymu'r broses. Mae'r sychu'n golygu nad yw wyneb y ddaear wedi'i orchuddio â llystyfiant, ac mae'r mawn agored yn erydu'n gyflym. Mae colofnau ynysig o fawn (a elwir yn 'haggs') yn dangos uchder arwyneb gwreiddiol y gors, ac mae'r mawn moel yn dangos effeithiau erydu parhaus.

Chwith: Sianeli erydiad mawn, sy'n cyferbynnu â'r gwaith adfer cadwraeth parhaus ar y safle. Dde: Colofnau ynysig a ffaniau o fawn wedi erydu yn Waun Fignen Felen.

Addasiad: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Fforwm Rheoli Waun Fignen Felen yn gweithio i wella'r ardal. Mae blocio ceunentydd a sianeli draenio wedi arafu'r erydu a'r dŵr ffo, ac wedi caniatáu i'r lefel trwythiad godi eto, gan helpu i gadw'r gors yn wlyb.

Nod rheolaeth hirdymor yr ardal yw gwarchod ei bioamrywiaeth, ei harwyddocâd archaeolegol a'i gwerthoedd paleoamgylcheddol. Bydd rheoli'r lefel trwythiad a diogelu'r mawn rhag sychu ac erydu yn helpu'r ardal i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.


Dinas Dinlle

Mae heneb gofrestredig Dinas Dinlle yn fryngaer flaenllaw ar arfordir gogledd Gwynedd ar ben marian rhewlifol, sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei arwyddocâd daearegol. Mae erydu helaeth wedi digwydd ar y safle. Mae effaith glaw trwm, yn ogystal ag effaith y gwynt a'r tonnau yn ystod stormydd wedi arwain at golli dros 50 metr o ochr orllewinol yr heneb ers 1900. Bydd canlyniadau newid hinsawdd yn arwain at erydu'r heneb y gyflymach, a allai gael ei golli'n llwyr dros yr ychydig ganrifoedd nesaf.

Gwrthgloddiau archaeolegol yn erydu i'r môr

Addasiad: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog yr heneb ac mae ei Strategaeth Addasu Arfordirol yn cynnwys 'croesawu'r anochel’. Er nad oes unrhyw ymyrraeth weithredol wedi'i chynllunio i atal erydiad, mae cyfres o gamau addasol yn digwydd, gan gynnwys adeiladu llwybrau pren i reoli erydiad a ffens ar hyd ymyl y clogwyn, ynghyd ag atgyweirio erydiad ar lwybrau troed eraill. 

Gwrthgloddiau archaeolegol yn erydu i'r môr

Gan gydnabod y bydd y safle'n cael ei golli yn y pen draw, mae archaeolegwyr wedi bod yn gweithio i'w ddeall yn well a chofnodi cymaint o wybodaeth â phosib.

 Dechreuodd gwaith ymchwil newydd yn 2017  dan arweiniad tîm o archaeolegwyr, tirfesurwyr, daearyddwyr a gwyddonwyr o'r Prosiect  CHERISH  a ariennir gan Ewrop.

Llun o'r awyr o archaeolegwyr yn cloddio am dŷ crwn carreg

Mae hyn wedi cynnwys arolwg o wyneb y clogwyn sy'n erydu, rhaglen yn cynnwys arolwg geoffisegol a chloddio archaeolegol.

Yn 2019 arweiniodd y gwaith cloddio at ddarganfod dwy ochr i strwythur carreg sydd wedi'i gadw'n dda, a'i gladdu dan dywod. Mae'r strwythur yn cael ei ddehongli fel tŷ crwn gyda diamedr o ryw 13 metr, gyda waliau cerrig yn goroesi i uchder o 3 i 4 cwrs a 2.4 metr o led. Nodwyd ail dŷ crwn posib i'r de.

Gyda chefnogaeth Cadw, Cronfa Neptune yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a CHERISH, dewiswyd nodwedda tŷ crwn sylweddol, ar gyfer ei atgyfnerthu a’i arddangos yn dilyn.

Cafodd bylchau yn wal y tŷ crwn eu hailosod, a defnyddiwyd tyweirch a arbedwyd i lenwi bylchau a chreu gorchudd uchaf meddal. Ychwanegwyd cerrig at y fynedfa i warchod rhag erydiad traed ac i amddiffyn y dyddodion oddi tano, a adawyd yn eu lle. Ymgymerwyd â lefel benodol o ôl-lenwi a thirlunio gyda gwastraff yn cael ei symud a'i ddefnyddio i lenwi creithiau’r erydiad mewn mannau eraill ar y safle.

Defnyddiwyd matiau rheoli erydiad biobydradwy i gynnal ardaloedd o amgylch y tŷ crwn, a chafodd y rhain eu hailhadu. Bydd byrddau gwybodaeth yn cael eu gosod yn eu lle i ddangos elfennau amrywiol y gwaith ymchwil a wnaed ac i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ar y safle yn awr ac yn y dyfodol.

Dinas Dinlle Animation


Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a agorwyd ym 1812, yn llifo drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn ystod gaeaf 2013-14, yn sgil glaw eithriadol o drwm, symudodd 125 metr o'r arglawdd wrth ochr y gamlas ger Llan-ffwyst, gan symud am i lawr ac achosi crac tensiwn hir. Roedd tirlithriad gerllaw hefyd, gan beryglu tri eiddo ar waelod yr arglawdd.

Dangosodd ymchwiliad fod y glaw trwm wedi achosi'r llithriad - roedd wedi dwrlenwi'r pridd yn llwyr, gan wneud iddo symud a llithro yn erbyn y creigwely oddi tano. O ganlyniad, roedd yr arglawdd wedi setlo ar hyd ei bwyntiau gwanaf, sef leinin y gamlas.

Chwith: Tir yn disgyn oddi wrth leinin concrit y gamlas ger Pont Tod. Dde: Gwaith atgyweirio ar yr arglawdd ger Llan-ffwyst

Addasiad

Roedd y difrod i leinin y sianel yn golygu bod rhaid cau'r gamlas a'i draenio. Roedd y gwaith atgyweirio yn dasg beirianyddol enfawr, gan lenwi'r crac a chlymu'r arglawdd i'r graig gan ddefnyddio hoelion pridd hyd at 19 metr o hyd, rhwydi a phlatiau strwythurol. Adferwyd y llwybr tynnu.

Bydd problemau tebyg yn cael eu hosgoi mewn safleoedd eraill drwy roi leinin concrit ar argloddiau sy'n agored i niwed, a fydd yn lleihau gollyngiadau hefyd ac felly'r galw am ddŵr, neu drwy ailadeiladu gyda strwythur pridd wedi'i atgyfnerthu, yn dibynnu ar amgylchiadau. Mae ymchwil newydd yn cael ei gynnal hefyd, i helpu i ragweld sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar y math hwn o strwythur ac i fodelu sut i osgoi methiant trychinebus a thrwsio costus.


Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd

Mae cynllun adnoddau coedwig Cwm Einion a Rheidol Uchaf yn cwmpasu ardal o 2,371ha.

Mae'r ardal yn gartref i nifer o nodweddion archaeolegol pwysig, gan gynnwys adeiladau adfeiliedig, cledrau a thwll mwynglawdd sy'n tystio i'r diwydiant mwyngloddio plwm, hollbwysig yn ei ddydd, a siapiodd yr ardal. Mae rhai o'r olion hyn yn cynnal twf cennau prin sy'n ffynnu yn yr amgylchedd llawn mwynau.  

Adeilad mwynglawdd adfeiliedig gyda phlanhigfa goedwig yn y cefndir

Mae adeiladau adfeiliedig a thomenni gwastraff, fel y rhain yn Esgair Hir, yn safleoedd archaeolegol pwysig ynddynt eu hunain yn ogystal â bod yn gartref i rywogaethau prin o gennau a phlanhigion

Mae newid hinsawdd yn golygu bod yr ardal hon yn wynebu sawl her gan gynnwys tanau gwyllt a rhywogaethau ymledol fel rhododendron a chlymog Japan. Mae gwyntoedd cryfion a stormydd yn gwneud y coed yn fwy agored i gael eu dymchwel gan wynt, sy'n gallu niweidio neu ddinistrio olion archaeolegol, ac mae clirio coed sydd wedi'u niweidio gan wynt a choed bregus yn golygu bod angen i gerbydau ac isadeiledd fynd i ardaloedd sensitif. 

 

Adeilad mwynglawdd adfeiliedig gyda phlanhigfa goedwig yn y cefndir

Tân gwyllt yng Nghwm Rheidol, 2018. Mae tywydd cynhesach a sychach yn gwneud tanau gwyllt yn fwy o fygythiad, gan achosi niwed i fioamrywiaeth ac archaeoleg yn ogystal â bygwth cartrefi a bywoliaeth pobl.

Addasiad

Mae addasu'n digwydd ar raddfa fach ac ar raddfa tirwedd; wedi'i lywio gan Gynlluniau Adnoddau Coedwigoedd. Mae'r cynlluniau hyn yn nodi camau rheoli ar gyfer pob safle archaeolegol, yn ôl eu harwyddocâd a'u bregusrwydd.

Ar raddfa tirwedd, mae gwytnwch y coetir yn cael ei wella trwy gael ei blannu gyda chasgliad mwy amrywiol o rywogaethau, wedi'u dewis i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Mae rhywogaethau ymledol yn cael eu symud oddi yno neu eu rheoli ar hyd Cwm Einion. Ar raddfa fach, mae safleoedd unigol yn cael eu rheoli i gynnal microhinsoddau sydd mor sefydlog â phosibl, er mwyn rhoi cyfle i gennau a phlanhigion prin barhau i oroesi yn ogystal â chadw nodweddion archaeolegol mewn cyflwr da.


Fron Goch

Mae tua 1,300 o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru ac maent wedi gadael olion  unigryw ar y dirwedd; mae llawer ohonynt yn achosi llygredd mewn afonydd a nentydd. Mae gaeafau gwlypach a thywydd eithafol amlach yn debygol o gynyddu llygredd ac felly mae mesurau lliniaru ac addasu'n hanfodol, er enghraifft, fel a welir ym mwynglawdd metel Frongoch ger Aberystwyth. Ar un adeg roedd Frongoch yn un o'r mwyngloddiau plwm a sinc mwyaf yn y canolbarth ac yn cyflogi dros 300 o fwyngloddwyr ar ei anterth ym 1881. 

Addasiad: Cafodd gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â llygredd o'r mwynglawdd ei gwblhau ym mis Mehefin 2015 am gost o £1.15 miliwn. Roedd yn cynnwys dargyfeirio nentydd oddi wrth y mwynglawdd a rhoi pridd a chlai dros wastraff mwyngloddio halogedig. Gwnaed y gwaith hwn mewn cydweithrediad agos ag archaeolegwyr i gofnodi a gwarchod yr olion archaeolegol lle'r oedd modd.

Archaeolegwyr yn gweithio ar safle hen fwynglawdd

Gwaith cloddio archaeolegol a chofnodi mewn cerwyn ym Mrongoch. Roedd cerwyn yn rhan o'r broses o adennill mwyn metel o wastraff.


Plas Cadnant

Fe wnaeth glaw am gyfnod hir achosi llifogydd yng ngardd hanesyddol Plas Cadnant ym mis Rhagfyr 2015. Wrth i ddraeniau maes gael eu blocio, cafodd y llifogydd dros y tir eu sianelu i gwm naturiol, gan ysgubo llwybrau i ffwrdd, difrodi planhigion ac achosi i wal ddeheuol yr ardd gaerog fawr ddymchwel.

Chwith: Gardd furiog Plas Cadnant yn dilyn llifogydd. Dde: Wal gerrig newydd wedi'i haddasu ym Mhlas Cadnant.

Addasiad: Mae'r safle wedi'i adfer, gyda nodweddion hanesyddol yn cael eu hail-greu'n ofalus gydag addasiadau i atal difrod rhag ofn y bydd llifogydd yn y dyfodol. Mae'r hen lwybrau graean wedi'u hail-osod gyda thar a cherrig mân, ac mae'r wal gerrig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'i hail-adeiladu gyda chraidd concrit wedi'i atgyfnerthu, wedi'i orchuddio gan gerrig. Mae dau dwll llifogydd wedi'u creu yng ngwaelod y wal, er mwyn i'r dŵr fynd drwy'r wal os bydd unrhyw lifogydd yn y dyfodol heb achosi difrod strwythurol.

 


Twmbarlwm

Yn ystod haf poeth 2018 bu cyfres o danau gwyllt ar safle archaeolegol Twmbarlwm, gan losgi'r llystyfiant a throi'r pridd yn llwch. Mae gan y safle eiconig hwn wrthgloddiau o'r Oes Efydd a Haearn ac mae gweddillion castell mwnt a beili, a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg ar ei ben. Yn dilyn y tanau, awgrymodd archwiliadau cychwynnol bod y llosgi wedi bod yn ddigon difrifol mewn mannau i ddinistrio'r holl ddeunydd organig yn y pridd, gan olygu bod adfywiad naturiol y llystyfiant yn annhebygol. Heb orchudd o lystyfiant roedd y safle'n agored i erydu gan wynt a glaw, gan fygwth nodweddion a dyddodion archaeolegol. Roedd pryderon hefyd y gallai archaeoleg gladdedig fod wedi cael ei difrodi gan wres dwys y tân, yn enwedig yn yr ardaloedd lle'r oedd y pridd wedi cael ei losgi'n ddifrifol.

Sweipiwch y ddelwedd i weld faint o losgi a ddigwyddodd yn sgil tanau gwyllt yn 2018

Addasiad: Dechreuodd Cadw a Chymdeithas Twmbarlwm, sefydliad lleol sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, brosiect i asesu'r difrod a achoswyd gan y tanau a chreu rhaglen reoli fwy hirdymor i gynyddu gwytnwch yr heneb. I ddechrau, fe geision nhw ail-hadu rhannau llosg y safle yn y gobaith y byddai'r glaswellt yn dechrau tyfu a sefydlogi wyneb y ddaear cyn stormydd y gaeaf. Yn anffodus, yn union wrth i'r hadau ddechrau tyfu cafodd y De ei daro gan storm ddifrifol gyntaf yr hydref a golchwyd y rhan fwyaf o'r hadau (a llawer o'r pridd ar yr wyneb) i ffwrdd yn y glaw trwm a'r gwyntoedd cryfion.

Chwith: Gwaith cloddio archaeolegol ar Dwmbarlwm Dde: Gwasgaru hadau gwair i geisio ailsefydlu gorchudd glaswellt ac atal erydiad

Gwnaed gwaith cloddio archaeolegol yn 2021 (wedi'i ohirio gan y tywydd a Covid). Ei nod oedd darganfod effeithiau'r tân a deall yr archaeoleg ar y safle yn well. Ychydig iawn sy'n hysbys am yr heneb sy'n ei gwneud hi'n anodd gwneud penderfyniadau am y ffordd orau o'i rheoli a sicrhau ei bod yn cael ei hamddiffyn yn y dyfodol. Dangosodd y cloddio nad oedd y tanau wedi llosgi'n ddigon dwfn i gael effaith ar yr archaeoleg gladdedig diolch i'r drefn. Datgelodd fod amddiffynfeydd yr heneb yn cynnwys ffos fawr wedi'i thorri yn y graig ac arglawdd cerrig. Cafodd golosg ei ganfod yn y ffos a ddylai roi dyddiad ar gyfer y rhagfuriau. 

Lluniwyd cynllun rheoli glaswelltir, er mwyn lleihau'r posibilrwydd o danau gwyllt mor ddwys yn y dyfodol. Mae'r cynllun yn argymell lleihau faint o ddeunydd fflamadwy, megis rhedyn, glaswellt twmpathog a llus a geir ar draws y bryn dros gyfnod o 10 mlynedd drwy gyfuniad o well rheolaeth (torri a chlirio) a mwy o bori. Bydd mantais ychwanegol i hyn, sef gwneud y llechwedd yn addas i rywogaethau mwy amrywiol o blanhigion a chynyddu bioamrywiaeth. 

Mae'r math hwn o reoli glaswelltir yn cael ei ddefnyddio ar safleoedd archaeolegol eraill hefyd er mwyn lleihau'r posibilrwydd o danau gwyllt. Drwy sicrhau bod y glaswelltir yn cael ei gadw'n agored, ac nad oes mwy o rywogaethau fel rhedyn na dim byd arall, mae llai o danwydd ar gyfer tanau gwyllt gan eu gwneud yn llai dwys a niweidiol. Wrth i hafau poethach ddod yn fwy cyffredin, a'r posibilrwydd o danau gwyllt gynyddu, mae'r math hwn o reoli'n hanfodol wrth addasu i effeithiau newid hinsawdd.


Caerwent Meadows

Mae Caerwent Meadows yn sefydliad cymunedol a gaiff ei arwain gan wirfoddolwyr sydd wedi ysgwyddo cyfrifoldeb am 11 erw o dir yn Nhref Rufeinig Caer-went. Mae'r ardaloedd yn cynnwys adeiladau a nodweddion Rhufeinig allweddol - olion yr amffitheatr, filâu ac adeiladau arwyddocaol eraill, ynghyd â rhan o Furiau Tref Rufeinig trawiadol, uwchben y ddaear. Roedd y tir wedi cael ei dan-bori am rai blynyddoedd, gan ganiatáu i rywogaethau ymledol a phrysgwydd ffynnu, gan gynnwys llysiau'r gingroen, efwr, mieri a danadl. Gyda thymheredd cyffredinol cynhesach a thymhorau tyfu hirach, roedd lledaeniad prysgwydd yn cynyddu, gan guddio'r olion archaeolegol uwchben y ddaear ac achosi difrod gwreiddiau i'r olion islaw'r ddaear.

Addasiad: Dechreuodd Caerwent Meadows reoli'r caeau yng ngwanwyn 2020, ac maen nhw wedi datblygu strategaeth 5 mlynedd i greu dolydd blodau gwyllt cynaliadwy. Byddant yn gyfleuster ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr, yn ogystal ag yn amgylchedd bioamrywiol llawn bywyd gwyllt, sy'n apelio'n weledol, a fydd yn sicrhau diogelwch yr archaeoleg o dan ac uwchben y ddaear.

Y nod cyffredinol yw creu mwy o fioamrywiaeth a chynyddu gwytnwch yr ardal i wrthsefyll eithafion hinsawdd. Mae porfa sy'n cael ei rheoli'n dda yn dal dŵr, gan leihau'r posibilrwydd o ddifrod a achosir gan ddŵr ffo a llifogydd, tra bod cael gwared ar goed sydd wedi'u heintio'n lleihau'r risg o'u dymchwel gan stormydd gan achosi difrod difrifol i archaeoleg gladdedig.

Mae trefniadau rheoli amrywiol yn cael eu rhoi ar brawf a'u monitro'n ofalus mewn gwahanol ardaloedd, er mwyn darparu data manwl am ddatblygiad y ddôl ac i lywio'r gwaith o reoli dolydd mewn mannau eraill.

Chwith uchaf: Clirio mieri a phrysgwydd. Top, canol: Hau hadau blodau gwyllt a glaswelltir y ddôl. Chwith gwaelod: Datblygu glaswelltir llawn rhywogaethau, meithrin gwytnwch a gwella cyflwr olion archaeolegol. Gwaelod, canol a gwaelod, dde: Monitro a chofnodi data o wahanol ddulliau rheoli i lywio gwaith rheoli dolydd mewn mannau eraill


Capel Sant Padrig

Y safle cloddio yn union y tu ôl i'r traeth

Gwaith cloddio yng Nghapel Sant Padrig, gan ddangos pa mor agos yw at y traeth a pha mor agored yw i erydu

Mae Heneb Gofrestredig Capel Sant Padrig sydd ychydig y tu ôl i'r traeth yn Nhraeth-mawr yn cynnwys olion capel a mynwent sydd wedi'u claddu. Mae'r safle wedi bod yn hysbys ers amser maith ac, o bryd i'w gilydd, mae stormydd trwm a moroedd uchel wedi gorlifo i'r fynwent, gan ddatgelu olion dynol. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r difrod wedi bod yn fwy rheolaidd ac yn fwy difrifol. Methodd yr ymgais olaf i amddiffyn y safle, yn 2014, pan gafodd y clogfeini trwm a osodwyd yno eu golchi i ffwrdd mewn storm ddifrifol gan ddatgelu claddfeydd yn y fynwent.

Olion capel adfeiliedig yn sgil cloddio

Olion y capel a ddatgelwyd drwy gloddio

Addasiad. Dim ond yn y tymor byr yr oedd ymdrechion blaenorol i amddiffyn y safle rhag y môr wedi bod yn llwyddiannus, ac roedd hi'n amlwg nad oedd hyn yn gynaliadwy. Roedd yn ymddangos mai cadw drwy gofnodi oedd y dull gorau, ond roedd arwyddocâd y safle'n golygu bod yn rhaid cymryd gofal mawr i adfer cymaint o wybodaeth â phosib, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau archaeolegol a gwyddonol.

Rhwng 2014 a 2016, bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield yn gweithio gyda pherchnogion y tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i gloddio'r safle ac adfer cymaint o wybodaeth â phosib.

Sgerbwd wedi'i gloddio mewn bedd wedi'i leinio â cherrig

Claddedigaethau a ddatgelwyd yn ystod y cloddio

Bu tymor arall o gloddio yn 2019 fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Ewrop o'r enw 'Cysylltiadau Hynafol'. Mae'r gwaith cloddio wedi dangos pwysigrwydd y safle, gan ddatgelu dros 100 o gladdedigaethau sy'n amrywio o ran dyddiad o'r wythfed ganrif i'r unfed ganrif ar ddeg. Mae ymchwil i'r olion sgerbydol wedi galluogi archaeolegwyr i ddysgu am yr unigolion sydd wedi'u claddu yma - gan gynnwys eu deiet a'u cefndir. Mae'r unigolion yn cynnwys dynion, merched a phlant o bob oed.

Cynorthwyodd byddin o wirfoddolwyr gyda'r gwaith cloddio ac, yn ogystal, daeth cannoedd o ymwelwyr i weld y gwaith cloddio newydd a welwyd ar y teledu'n lleol a chenedlaethol hefyd. Rhannwyd y stori drwy arddangosfeydd, cyhoeddiadau a gwefannau hefyd. Helpodd y cyhoeddusrwydd hwn i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ar safleoedd hanesyddol a dangos arwyddocâd archaeoleg leol.

Mae canlyniadau'r gwaith cloddio wedi galluogi Awdurdod y Parc Cenedlaethol i wella'r ffordd mae'r safle'n cael ei ddehongli, gan alluogi ymwelwyr â'r traeth poblogaidd i ddysgu am ei hanes.

Fideo 10 munud o Gapel Sant Padrig yn Saesneg

Ail-gread digidol o Gapel Sant Padrig, gyda tho arno ac yn cael ei ddefnyddio

Defnyddiwyd gwybodaeth o'r gwaith cloddio i gynhyrchu'r ail-gread hwn o Gapel Sant Padrig.


Ffordd Rufeinig Bwlch y Ddeufaen

Roedd y ffordd Rufeinig rhwng y lleng-gaer a'r dref yng Nghaer a'r ganolfan ategol a phorthladd môr pwysig Segontium, Caernarfon, yn croesi mynyddoedd gogledd Eryri trwy Fwlch y Ddeufaen. Mae'r ffordd yn dilyn llwybr drwy dirwedd archaeolegol eithriadol o gyfoethog, gan gynnwys siambr gladdu Neolithig, tai crwn a systemau caeau o'r Oes yr Haearn ac anheddiad Canoloesol. Tan i lwybrau rheilffyrdd a ffyrdd gael eu creu drwy waith peirianyddol ar hyd yr arfordir, roedd y ffordd hon ar draws y mynyddoedd yn ddolen drafnidiaeth bwysig. Mae'n dal i gael ei defnyddio heddiw - gan ffermwyr a thirfeddianwyr lleol i gael mynediad, ac at ddefnydd hamdden gan gerddwyr, marchogion a seiclwyr.

Yn nhir uchel y bwlch mynyddig, mae rhannau clir o'r Ffordd Rufeinig wedi goroesi'n dda. Fel llwybr suddedig, mae'r ffordd fel twndis sy'n dargyfeirio dŵr sy'n draenio i lawr o'r mynydd; yn y gorffennol, roedd hyn yn cael ei reoli gan system ofalus o ffosydd ochr a cheuffosydd, rhai wedi'u gorchuddio â slabiau cerrig. Mae mwy a mwy o stormydd a glaw trwm wedi golygu bod mwy o ddŵr yn llifo nag y gall y draeniau ymdopi ag ef, gan greu rhychau a thyllau yn wyneb y llwybr. Mae dŵr sy'n llifo i lawr i gyfeiriad pentref Rowen wedi ansefydlogi ac achosi cwympiadau ar ffordd gyhoeddus hefyd.

Dŵr yn cael ei sianelu i lawr ffordd suddedig gyda waliau cerrig naill ochr a'r llall

Sianelwyd dŵr i lawr y ffordd Rufeinig, gan achosi difrod pellach i'w hwyneb a bygwth llifogydd a chwymp ffyrdd oddi tani

Addasiad. Bu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Adran Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Cadw'n cydweithio yn ystod gaeaf 2020/21. Cliriwyd silt o ddarnau sylweddol o ffos ochr, cafodd ceuffosydd eu clirio a chafodd rhannau o'r llwybr a oedd wedi'u difrodi eu trwsio a rhoddwyd wyneb newydd o gerrig crynion a siâl arnynt. Dylai'r llwybr allu ymdopi'n well â llif dŵr mewn cyfnodau brig yn awr, gyda chymaint o ddŵr â phosibl yn cael ei gludo ar draws ei wyneb ac i'r systemau draenio wrth ochr y ffordd, yn hytrach nag i lawr ac i mewn i'r pentref islaw.

Mae mwy o waith i'w wneud, ond y gobaith yw, ar ôl mwy o waith atgyweirio, y bydd y llwybr yn cael ei gynnal a'i gadw drwy raglen dreigl o waith ar raddfa fach, i'w gwneud ar y cyd â thirfeddianwyr lleol. Mae'r gwaith yn golygu bod y llwybr yn parhau i fod yn hygyrch, bod ei nodweddion hanesyddol yn cael eu cynnal a'u cadw a bod difrod i'r ffordd gyhoeddus yn Rowen yn y dyfodol yn cael ei osgoi.


Safle llongddrylliad y "Bronze Bell"

Blociau o farmor wedi'u gorchuddio gan wymon ar wely'r môr

Rhai o'r blociau marmor ar wely'r môr

Cafodd y "Bronze Bell" ei darganfod ym 1978 ac wedi hynny fe'i dynodwyd yn llongddrylliad gwarchodedig. Mae'r llongddrylliad mewn tua 8m o ddŵr ar greigres Sarn Badrig. Nid yw enw'r llongddrylliad yn hysbys, ond mae'n debygol mai llongddrylliad llong fasnach o Genoa ydyw a gollwyd ym 1709 gyda llwyth o flociau marmor. Cafwyd hyd i gloch efydd, gyda'r dyddiad 1677 arni, ar y llongddrylliad.

Mae'r llongddrylliad wedi cael ei fonitro o bryd i'w gilydd ers ei ddynodi, ond gallai newid hinsawdd gynyddu niwed i'r safle yn sgil:

  • tywydd mwy stormus a thyrfedd dŵr yn achosi difrod ffisegol
  • newid mewn lefelau pH (asideiddio gan mwyaf) sy'n effeithio ar gadwraeth gwrthrychau metel
  • cynnydd yn nhymheredd y dŵr sy'n caniatáu i Lyngyr Llongau (Lyrodus pedicellatus) - ledaenu, sef rhywogaeth sy'n tyllu i mewn i bren a all effeithio ar longddrylliadau
Dau ddeifiwr yn cofnodi safle llongddrylliad o dan y dŵr

Deifwyr yn cofnodi safle llongddrylliad y "Bronze Bell"

Addasiad. Yn 2021, fel rhan o raglen  CHERISH , arolygwyd y safle'n gynhwysfawr gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol dechnegau. Diolch i dechneg ffotogrametreg bu modd cynhyrchu  cynllun 3D  o'r llongddrylliad ar wely'r môr, a llwyddodd deifwyr i dynnu lluniau o'r llongddrylliad a chynhyrchu cynllun newydd o'r lloriau ynddo. Cymharwyd hyn â chynlluniau blaenorol, a nodwyd tystiolaeth archaeolegol newydd.

Casglwyd tystiolaeth amgylcheddol hefyd, fel bod modd monitro'r dyfroedd o amgylch y llongddrylliad yn y dyfodol, a'r effeithiau y mae'r hinsawdd sy'n newid yn eu cael arno.

Mae'r lefel hon o fonitro a chofnodi cynhwysfawr yn gosod y safon ar gyfer cofnodi safleoedd hanesyddol yn y dyfodol. Roedd yn cynnig cyfle i'r tîm ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd, drwy sgyrsiau, dyddiaduron cloddio ar-lein a ffilmiau; gan godi ymwybyddiaeth o fregusrwydd ac arwyddocâd archaeoleg tanddwr.


Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel y Creuddyn

Mae newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r risgiau i ffabrig adeiladau, ac yn eglwys ganoloesol Restredig Gradd II* Sant Mihangel yn Llanfihangel y Creuddyn, Ceredigion arweiniodd glaw cynyddol at ddŵr yn treiddio drwy dŵr yr eglwys i brif gorff yr eglwys ac yn achosi problemau lleithder difrifol. Effeithiodd y dŵr yn treiddio i mewn ar drydan yr eglwys, ac arweiniodd hyn, ynghyd â system wresogi olew aneffeithiol - yr oedd ei boeler yn nhŵr yr eglwys ac yn ychwanegu at y problemau lleithder oherwydd y cyddwysiad oedd yn cael ei greu – at orfod cau’r eglwys yn 2017 er diogelwch ac iechyd y gynulleidfa ac ymwelwyr.

Addasiad: Mae’r gymuned leol yn poeni’n fawr am eu heglwys a daethant at ei gilydd i sefydlu prosiect cymunedol i wneud atgyweiriadau a gwelliannau i ddiogelu’r eglwys ar gyfer y dyfodol. Codwyd arian a gwnaed cais llwyddiannus am arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, Sefydliad Wolfson, Ymddiriedolaeth Headley a Chyngor Sir Ceredigion.

Rhwng 2019 a 2023 ymgymerwyd â gwaith atgyweirio a gwella. Roedd hyn yn cynnwys cael gwared â phwyntio sment, ac ailbwyntio a gosod calch poeth (yr un math o ddeunydd anadlol ag a ddefnyddiwyd yn yr adeiladwaith gwreiddiol) ar wynebau deheuol a gorllewinol tŵr yr eglwys - y rhai sy'n dioddef fwyaf oherwydd y tywydd. Yma, gosodwyd gwaith plwm dyfnach newydd yn ei le hefyd.

Y tu mewn i dŵr yr eglwys gwnaed gwaith atgyweirio helaeth i loriau'r tŵr. Roedd pennau rhai o'r trawstiau llawr 500 o flynyddoedd oed wedi dechrau pydru lle'r oeddent wedi'u mewnosod yn waliau llaith a gwlyb y tŵr. Torrwyd y darnau hyn allan a gosodwyd darnau derw newydd yn eu lle cyn gosod estyll derw newydd yn eu lle hefyd. Roedd y lloriau newydd wedyn yn gallu cymryd pwysau grisiau newydd gan ddarparu mynediad cyhoeddus diogel i fyny’r tŵr canoloesol rhyfeddol i’w glochdy hynafol.

Tynnwyd yr hen system wresogi olew, cafodd yr eglwys ei hailweirio ac mae bellach yn cael ei gwresogi a'i phweru gan drydan gwyrdd. Ailagorodd yr eglwys yn haf 2022.

Gwnaed gwaith ar du allan tŵr yr eglwys yn ystod haf a hydref 2021. © Louise Barker


Henebion Arfordir Penfro – Dull Gwyddoniaeth y Dinesydd o Weithredu

Yn 2020, sefydlodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) raglen monitro gwirfoddolwyr ar gyfer henebion cofrestredig sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Cafodd cyfanswm o 17 o wirfoddolwyr treftadaeth eu recriwtio a’u hyfforddi i ymweld â safleoedd a neilltuwyd a chyflwyno gwybodaeth am faterion a nodwyd drwy system ar-lein o’r enw Survey123. Roedd y system hon yn galluogi gwirfoddolwyr i gofnodi maint y problemau a chyflwyno lluniau. Mae cyfanswm o 128 o henebion yn cael eu monitro, sy’n cyfrif am bron i hanner yr holl henebion cofrestredig yn ardal y Parc Cenedlaethol gyda 311 o ymweliadau wedi’u cynnal erbyn diwedd 2022.

Mae’r ymweliadau a’r wybodaeth a gyflwynwyd wedi datgelu bod mwyafrif yr henebion yn cael eu heffeithio gan ryw fath o broblem, gan gynnwys problemau sy’n debygol o waethygu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Yn benodol, mae llystyfiant prysgwydd yn effeithio ar bron i dri chwarter yr henebion cofrestredig a gafodd eu monitro a bron chwarter gan erydiad arfordirol.

O ganlyniad i’r cynllun monitro hwn, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ac yn parhau i ddefnyddio’r data i flaenoriaethu a thargedu adnoddau mewn perthynas â gweithgareddau rheoli tir sy’n ymwneud â threftadaeth archaeolegol. Hyd yma, defnyddiwyd yr wybodaeth i dargedu gweithgareddau clirio prysgwydd a hefyd i edrych ar ffyrdd o liniaru ac addasu i effaith erydiad arfordirol ar safleoedd yr effeithir arnynt.


Adfer Mawndir Llyn Efyrnwy gan yr RSPB

Llyn Efyrnwy yw gwarchodfa fwyaf yr RSPB yng Nghymru a Lloegr ac mae’n cynnwys mwy na 10,000 o hectarau o dir pori, planhigfeydd, coetir a rhosydd o amgylch cronfa ddŵr Efyrnwy. Mae dyddodion mawn ucheldirol helaeth yng ngorllewin a gogledd y warchodfa. Mae ffosydd draenio sydd wedi’u torri yn y mawn, a gloddiwyd yn bennaf yn yr 20fed ganrif, wedi erydu i ffurfio mignenni a gylïau sy'n lleihau’r gallu i gadw dŵr ac yn cynyddu erydiad. Yn y dyfodol, bydd tymereddau uwch, glawiad is yn yr haf a stormydd amlach yn cyfrannu at erydiad ac yn achosi i’r mawn grebachu.

Erydiad mawn ar ymyl y sianelau yn Llyn Efyrnwy. © RSPB

Mae'r ucheldiroedd o amgylch Llyn Efyrnwy yn cynnwys amrywiaeth o asedau archaeolegol gan gynnwys crugiau o'r Oes Efydd, anheddiad Canoloesol anghyfannedd a nodweddion tirwedd amaethyddol. Er bod yr ardal wedi'i harolygu'n helaeth (a'r canlyniadau wedi'u cofnodi yng Nghofnod yr Amgylchedd Hanesyddol), nid ydym yn deall llawer o’r asedau'n dda ac mae llawer o nodweddion heb eu cofnodi neu’n anhysbys; mae'r rhain yn cynnwys cloddiau gweladwy, olion archaeolegol wedi’u claddu a gwybodaeth balaeoamgylcheddol. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol i’n dealltwriaeth ni o’r defnydd hanesyddol o’r ucheldiroedd.

Mae’r RSPB wedi bod yn cynnal gwaith adfer mawn mewn lleoliadau ucheldirol dethol yn Llyn Efyrnwy ers sawl blwyddyn, wedi’i gyllido’n bennaf gan Hafren Dyfrdwy a Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd Genedlaethol (NPAP) CNC, a’i gynnal yn unol â’r Cod Mawndiroedd. Mae’n brosiect tymor hir – bydd y cynllun presennol yn cael ei gwblhau yn 2055.

Mae'r RSPB wedi trefnu dyddiau hyfforddi ar y safle yn Llyn Efyrnwy a hyfforddiant o bell i'r rhai yn y sefydliad sy'n ymwneud ag adfer mawn. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys sut i integreiddio treftadaeth mewn prosiectau adfer a sut i adnabod nodweddion treftadaeth ar lawr gwlad. Mae hyn yn sicrhau bod treftadaeth yn cael ei hystyried yn gynnar ac yn caniatáu i staff ar y safle wneud mân newidiadau yn ystod y gwaith, a thrwy hynny leihau oedi.

Ategwyd y data archaeolegol presennol gan ymweliadau safle gan archaeolegydd yr RSPB a bydd unrhyw nodweddion ychwanegol yn cael eu hychwanegu at HER. Trafodir cynigion adfer gydag Archaeolegydd yr RSPB a gellir addasu cynlluniau i osgoi effaith ar asedau treftadaeth.

Mae ailwlychu’r mawn yn raddol yn arafu a gallai atal diraddio asedau treftadaeth hysbys ac anhysbys yn yr ucheldir. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft o addasu i’r hinsawdd sy'n canolbwyntio ar natur sydd wedi sicrhau manteision sylweddol i dreftadaeth.

Pyllau wedi’u creu gan fyndiau yn Llyn Efyrnwy. Nodwedd archaeolegol heb ei chofnodi o'r blaen, mae clawdd o ddyddiad anhysbys yn y cefndir. © RSPB

 

Hawlfraint y Goron 2023

Oni phriodolir fel arall

Mae adeiladau adfeiliedig a thomenni gwastraff, fel y rhain yn Esgair Hir, yn safleoedd archaeolegol pwysig ynddynt eu hunain yn ogystal â bod yn gartref i rywogaethau prin o gennau a phlanhigion

Tân gwyllt yng Nghwm Rheidol, 2018. Mae tywydd cynhesach a sychach yn gwneud tanau gwyllt yn fwy o fygythiad, gan achosi niwed i fioamrywiaeth ac archaeoleg yn ogystal â bygwth cartrefi a bywoliaeth pobl.

Gwaith cloddio archaeolegol a chofnodi mewn cerwyn ym Mrongoch. Roedd cerwyn yn rhan o'r broses o adennill mwyn metel o wastraff.

Sweipiwch y ddelwedd i weld faint o losgi a ddigwyddodd yn sgil tanau gwyllt yn 2018

Gwaith cloddio yng Nghapel Sant Padrig, gan ddangos pa mor agos yw at y traeth a pha mor agored yw i erydu

Olion y capel a ddatgelwyd drwy gloddio

Claddedigaethau a ddatgelwyd yn ystod y cloddio

Defnyddiwyd gwybodaeth o'r gwaith cloddio i gynhyrchu'r ail-gread hwn o Gapel Sant Padrig.

Sianelwyd dŵr i lawr y ffordd Rufeinig, gan achosi difrod pellach i'w hwyneb a bygwth llifogydd a chwymp ffyrdd oddi tani

Rhai o'r blociau marmor ar wely'r môr

Deifwyr yn cofnodi safle llongddrylliad y "Bronze Bell"

Erydiad mawn ar ymyl y sianelau yn Llyn Efyrnwy. © RSPB

Pyllau wedi’u creu gan fyndiau yn Llyn Efyrnwy. Nodwedd archaeolegol heb ei chofnodi o'r blaen, mae clawdd o ddyddiad anhysbys yn y cefndir. © RSPB