
Hanesion y Llwybrau: Cwm Clydach
Llwybrau seiclo sy’n crwydro hanes a threftadaeth yr ardal
Darganfyddwch hanesion y llwybrau
Mae cymoedd Cymru a’r cymunedau glofaol a dyfodd ynddynt yn rhan falch o’n gorffennol sy’n haeddu cael eu cofio.
Mae prosiect Hanesion y Llwybrau Cycling UK, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw, wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian i gofnodi hanesion y preswylwyr a dod â nhw’n fyw trwy lwybrau seiclo sy’n mynd â phobl i’r dirwedd lle digwyddasant.
Trawsnewidiwyd y cwm hwn gan y diwydiant glo, o ardal amaethyddol brin ei phoblogaeth i un o’r mannau mwyaf poblog yng Nghymru erbyn diwedd y 19eg ganrif, gyda dau bwll glo yn cynhyrchu 100 o dunelli o lo bob dydd.
Creodd gymuned oedd yn weithgar yn wleidyddol, gydag anghydfodau diwydiannol a streiciau a arweiniodd at Derfysgoedd Tonypandy yn 1910.
Cafwyd trasiedi yng Nghwm Clydach hefyd, gyda nifer o drychinebau glofaol a llifogydd enbyd yn ystod yr 20fed ganrif. Ond mae’r gymuned yn dal i edrych i’r dyfodol, i ddathlu cyfleoedd yr amgylchedd naturiol cyfoethog o’i chwmpas.
Crwydrwch y llwybrau hyn eich hun er mwyn dysgu mwy am orffennol, presennol a dyfodol Cwm Clydach.
“Mae gennym dreftadaeth a diwylliant cyfoethog iawn. Mae gennym bobl a frwydrodd am yr hyn sydd gennym, mae gennym bobl sydd wedi rhoi eu bywydau ac wedi dioddef caledi. Mae’n bwysig iawn i bobl ifanc ddeall gwerth y lleoedd sydd gennym, sut maen nhw wedi datblygu a’r angerdd a’r egni mae pobl wedi’u harllwys iddynt.”
Simone Devinett, un o breswylwyr Cwm Clydach

Cofeb Glofa’r Cambrian
Cofeb Glofa’r Cambrian. Click to expand.
Mae’r gofeb hon yn coffáu trychineb glofaol ar 17 Mai 1965, pan gafodd 31 o bobl eu lladd.

Llifogydd Cwm Clydach yn 1910
Llifogydd Cwm Clydach yn 1910. Click to expand.
Nid oedd pob trychineb glofaol yn digwydd o dan y ddaear. Heb yn wybod i breswylwyr y pentref, roedd un o wythiennau darfodedig Lefelau Perch wedi bod yn llenwi’n raddol â dŵr ers blynyddoedd, ac ar 11 Mawrth 1910 fel dorrodd.

Y Chwarel sy’n Sgrechian
Y Chwarel sy’n Sgrechian. Click to expand.
Yn ôl chwedl leol, un tro daeth teulu o deithwyr i aros yng Nghwm Clydach am ychydig ddyddiau. Un noson, bu cweryl rhyngddynt a rhai o’r dynion lleol. Rhedodd y bobl leol ar ôl y teithwyr a’u cwrso mas o’r pentref lan y llwybrau serth ar ochr y cwm.

Maes Chwarae’r ‘Mid’
Maes Chwarae’r ‘Mid’. Click to expand.
Agorodd maes chwarae canol y Rhondda, a elwir y ‘Mid’, yn 1903. Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau mawr yno, gan gynnwys y gêm rygbi’r gynghrair ryngwladol gyntaf erioed yn 1908, pan enillodd Cymru yn erbyn Lloegr, 35-18, o flaen torf o 15,000.

Croes Wen Trealaw
Croes Wen Trealaw. Click to expand.
Wrth ichi grwydro ar hyd y cwm, efallai y gwelwch y groes wen fawr hon ar ochr y bryn i’r dwyrain o Donypandy.
Tales of the trails - Clydach Vale
1940-1947 Bartholomew historic map courtesy of the National Library of Scotland
Mae Hanesion y Llwybrau wedi cael eu creu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian a'r gymuned leol a’u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.