Argae Parc y Rhath - Gwaith Gwella

Diweddariad cynnydd prosiect fel rhan o ail gam ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r gymuned

Pam mae angen gwaith ar yr argae?

Mae Llyn Parc y Rhath yn gronfa ddŵr gafodd ei chreu drwy osod strwythur argae i'r de, ac sy’n cael ei bwydo gan Nant Fawr. Mae Cyngor Caerdydd yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal Argae Parc y Rhath, sy'n eiddo cyhoeddus, ac mae archwiliadau rheolaidd yn ofynnol dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr (1975).

Canfu'r archwiliad diweddaraf ar y gronfa na fyddai gorlifan yr argae, sef y rhaeadr ger y caffi, yn ddigon mawr i wrthsefyll digwyddiadau llifogydd eithafol, ac felly bellach mae angen gwaith gwella.

Archwilio opsiynau posibl

Crëwyd rhestr hir o atebion posib i ddelio â digwyddiadau llifogydd eithafol.

Yn ystod adolygiad cychwynnol, cafodd rhai opsiynau eu diystyru am beidio â bodloni’r buddion diogelwch argae angenrheidiol. Isod ceir crynodeb lefel uchel o'r opsiynau a ddiystyrwyd:

Mireinio opsiynau

Yn dilyn adolygiad o'r rhestr hir o opsiynau, archwiliwyd rhestr fer o'r tri opsiwn technegol dichonadwy yn fanylach. Mae brasluniau cysyniadol o'r opsiynau hyn wedi’u dangos isod.

Opsiwn A: Gosod gorlifan newydd mwy o ran maint

Mae’r opsiwn hwn yw disodli'r gorlifan presennol gyda strwythur llawer mwy, a byddai gofyn cael gwared ar gaffi Terra Nova.

Diystyriwyd yr opsiwn hwn oherwydd yr amhariad sylweddol ar y parc a cholli'r caffi.

Opsiwn B: Gosod gorlifan newydd, ynghyd â wal atal llifogydd

Mae'r opsiwn hwn yn disodli'r gorlifan presennol gyda strwythur lletach a dyfnach ac yn ychwanegu wal atal llifogydd ar hyd y promenâd.

Bwriwyd ymlaen gyda’r opsiwn hwn fel yr ateb a ffefrir gan ei fod yn bodloni'r holl ofynion diogelwch ar gyfer argaeau ac hefyd yn amharu leiaf ar y parc.

Opsiwn C: Gorlifan newydd ar ochr ddwyreiniol y parc

Mae’r opsiwn hwn yw ychwanegu gorlifan newydd drwy faes chwarae'r plant. Byddai'r gorlifan presennol yn parhau fel y mae a byddai'r maes chwarae yn cael ei adleoli i fan arall.

Diystyriwyd yr opsiwn hwn oherwydd yr amhariad sylweddol ar y parc a’r maes chwarae.

Ateb a ffefrir

Yr ateb a ffefrir yw Opsiwn B, disodli'r gorlifan presennol gyda strwythur lletach a dyfnach ac ychwanegu wal atal llifogydd ar hyd y promenâd.

Isod mae delweddau sy'n dangos sut olwg fydd ar i’r datrysiad ar ôl ei adeiladu. Bydd angen cyflwyno'r dyluniad hwn ar gyfer caniatâd cynllunio ac felly efallai y bydd yn destun newid.

Mae'r gored bresennol yn 19m o hyd a chaiff hon ei disodli gan gored 25m o hyd ar ddwy lefel. Bydd y gorlifan yn ddyfnach ac felly bydd nifer y grisiau islaw’r gored yn cynyddu. Bydd y bont ar draws y gorlifan yn lletach. Bydd wal newydd o flaen caffi Terra Nova ond bydd y caffi ei hun yn aros heb newid.

Bydd wal atal llifogydd newydd 1.1m o uchder yn cael ei chodi ar hyd ochr ddeheuol y promenâd. Mae hyn yn cyfateb i uchder y rheiliau presennol. Caiff meinciau a blychau plannu eu hamnewid ar hyd canol y promenâd a byddant yn wynebu'r llyn. Bydd nodwedd gardd Terra Nova yn cael ei symud i leoliad arall yn y parc.

Bydd Cwt y Ceidwad yn cael ei dynnu oddi yno a bydd seddi cyhoeddus newydd yn cael eu creu yn yr ardal gyfagos wrth ymyl y gored a'r caffi. Bydd gât fynedfa'r parc a chiosg hufen iâ yn aros heb newid.

Mae'r gorlifan presennol yn 6m o led a hyd at 3m o ddyfnder a bydd yn cael ei ddisodli gan strwythur mwy o faint, tua 8m o led a hyd at 6m o ddyfnder. Bydd tramwyfa llysywod ar hyd un ochr i’r gorlifan. Bydd nifer o goed yn cael eu gwaredu ar hyd ymyl ddwyreiniol y gorlifan i hwyluso ei adeiladu a chânt eu disodli gan blannu lefel isel a fydd yn caniatáu gwell archwiliad o’r gorlifan a’i gynnal a’i gadw’n well.

Os bydd unrhyw golledion coed, bydd y nifer newydd a blannir yn yr ardal leol yn fwy na'r nifer a gollir. Mae'n bosib na fydd modd ail-blannu coed yn eu lleoliad gwreiddiol oherwydd y cynnydd yn ôl troed y gorlifan a gofynion diogelwch yr argae.

Bydd y pyllau grisiog ar hyd y gorlifan presennol yn cael eu cynnwys yn y dyluniad newydd. Ni fydd unrhyw newidiadau i'r bont yn is i lawr na'r sianel heibio i'r pwynt hwn.

Bydd y rheiliau ar hyd ochr ddeheuol y promenâd yn cael eu disodli gan wal atal llifogydd newydd 1.1m o uchder (yr un uchder â'r rheiliau presennol). Ni fydd gwaith yn cael ei wneud i lethr deheuol yr argae na'r goeden dderw fawr ar waelod yr argae. Bydd rhywfaint o amharu ar y maes chwarae wrth adeiladu.

Sut olwg allai fod arno?

Mae maint a dimensiynau'r gorlifan newydd a'r wal newydd yn cael eu pennu gan ofynion peiriannegol.

Gan fod y gorlifan presennol yn Strwythur Rhestredig Gradd II, bydd angen sicrhau bod y gosodiad newydd yn cydweddu â'r gwreiddiol. Cymaint ag y bo modd, bydd y garreg wreiddiol yn cael ei hailddefnyddio a lle bo angen, byddwn yn sicrhau carreg ychwanegol debyg. Bydd y gorlifan newydd yn cael ei chodi gyda waliau a sylfaen concrid, ac wedi'i leinio â charreg nadd.

Gan fod Parc y Rhath wedi ei ddynodi'n Barc a Gardd Hanesyddol, bydd angen i'r wal atal llifogydd newydd fod yn cydweddu â'r ardal o fewn parc treftadaeth.

Ar gyfer sefydlogrwydd strwythurol, bydd tu mewn y wal yn cael ei ffurfio o goncrit, a bydd ei du allan yn cael ei orchuddio â deunyddiau sy'n nodweddiadol o'r ardal leol. Isod gwelir rhai enghreifftiau o waliau presennol yn y gymdogaeth.

Ystyriaethau eraill

Beth allai’r effeithiau ar fywyd gwyllt a choed lleol fod?

Bydd yr effeithiau ar fywyd gwyllt a choed lleol yn cael eu lleihau cymaint â phosibl. Mae ecolegwyr eisoes wedi cynnal rhai arolygon a bydd arolygon pellach yn cael eu cynnal wrth i'r cynllun fynd rhagddo a thrwy gydol y gwaith adeiladu.

Bydd mesurau lliniaru hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o'r datblygiad dylunio; er enghraifft, caiff tramwyfa llysywod ei chynnwys yn rhan o’r gorlifan.

Effaith yn ystod y gwaith adeiladu

Y Contractwyr fydd yn nodi'r cynlluniau i leihau unrhyw effaith ar y gymuned leol yn ystod y gwaith adeiladu ar ôl iddynt gael eu penodi yn 2023.

Bydd amseroedd gwaith y safle a rheoli traffig yn cael eu cytuno gyda'r contractwr cyn eu penodi.

Bydd angen cau gwahanol rannau o'r parc ger yr argae yn ystod y gwaith. Caiff yr holl gyfnodau y bydd yr argae ar gau eu cynllunio, a rhoddir gwybod amdanynt i randdeiliaid cymunedol a thrigolion lleol ymlaen llaw.

Perygl llifogydd

Prif nod y cynllun yw gwneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod llif eithafol yn cael pasio drwy’r argae’n ddiogel. Mae'n canolbwyntio ar ddiogelwch yr argae a'r boblogaeth ymhellach i lawr yr afon, ac nid lleihau'r risg o lifogydd i lawr yr afon yw cwmpas y cynllun.

Yn rhan o'r cais cynllunio, bydd angen llunio Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (AGLl). Yn rhan o broses ymgeisio'r AGLl, bydd angen i nid ddangos y byddem yn gallu rheoli unrhyw effeithiau ar lifogydd ymhellach i lawr yr afon o ganlyniad i waith gwella’r argae. Mae’r dyluniad yn cael ei ddatblygu yn unol â gofynion TAN15, sef nodyn cyngor technegol y Llywodraeth ar gyfer datblygu a pherygl o lifogydd.

Am unrhyw ymholiadau pellach, edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin ar ein  tudalen we .

Y camau nesaf

Ein hymrwymiad i chi

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned leol i sicrhau eich bod yn deall y gwaith dan sylw.  Wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen, cynhelir mwy o ddigwyddiadau gwybodaeth cymunedol fel bod trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn parhau i gael eu hysbysu o’r newyddion diweddaraf am y prosiect.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

Mae gwybodaeth lawn am y cynigion ar gael ar-lein drwy fynd i:  https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/parc-y-rhath/prosiect-argae-parc-y-rhath/ 

Cadw mewn cysylltiad

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y prosiect neu os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd amdano, cysylltwch â thîm y prosiect.

©Arup 2022