Taith Pen Llŷn - Llwybr y Morwyr

Archwilio bywyd gwyllt a hanes Pen Llŷn o Nefyn i Abersoch, gan ddilyn hen lwybrau'r Morwyr

Mae  LIVE  yn brosiect cydweithredol rhwng mudiadau cymunedol yng Nghymru ac Iwerddon, prifysgolion a llywodraethau lleol ar Benrhyn Iveragh (de-orllewin Iwerddon) a Phenrhyn Llŷn (gogledd-orllewin Cymru). Nod LIVE yw galluogi cymunedau arfordirol i hyrwyddo eu hasedau naturiol a diwylliannol a chreu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig y tu allan i’r prif dymhorau twristiaeth traddodiadol. Gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn barod a gwybodaeth newydd, bydd LIVE yn adeiladu ar waith sydd eisoes ar y gweill i greu hunaniaeth gref ac ymdeimlad o le ar gyfer y ddau benrhyn. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma:  www.ecomuseumlive.eu .


Ychydig o wybodaeth am yr ardal a’r llwybr

Mae’r llwybr yn plethu ei ffordd drwy ganol Pen Llŷn o’r naill arfordir i’r llall, gan basio drwy amrywiaeth eang o gynefinoedd, o gopaon grugog ar hen losgfynyddoedd, i ddyffrynnoedd rhewlifol o goetir llydanddail a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Geirch - cynefin ffendir pwysig sy’n cynnwys rhywogaethau prin o fywyd gwyllt na ellir eu gweld yn unman arall yng Nghymru.

Y Gylfinir yw un o’r rhywogaethau adar y byddwch yn debygol o’u gweld ar y llwybr hwn yn ystod y gwanwyn, ac mae Comin Mynytho yn gartref i un o’r parau olaf o’r rhywogaeth enigmatig yma sy’n bridio ym Mhen Llŷn.

Mae prif linell ‘Llwybr y Morwyr’ yn cysylltu tref arfordirol Nefyn â phentref Abersoch, ar hyd nifer o lwybrau cyhoeddus a ddefnyddiwyd gan forwyr yn y 19eg ganrif. Mae enw’r llwybr hwn yn gysylltiedig â hanes a phwysigrwydd Pen Llŷn i weithgareddau chwarelyddol yng Ngogledd Cymru, ac yn enwedig i'r diwydiant cloddio llechi yn Eryri: roedd llongau oedd ar eu ffordd i’r porthladd  ym  Mhorthmadog   tua’r gogledd-ddwyrain yn arfer angori ger Ynysoedd Sant Tudwal er mwyn codi peilotiaid llongau i’w tywys i ‘borthladd Madoc’ (Porthmadog). Byddai morwyr o bob cwr o’r penrhyn yn cerdded y llwybrau sy’n rhedeg ar draws Pen Llŷn ac sy’n cydgyfarfod yn Abersoch a Llanbedrog, ac felly maent yn cael eu hadnabod fel llwybrau’r Morwyr.

Bwrdd dehongli Llwybr y Morwyr yn nhref arfordirol Nefyn.

Erbyn heddiw, mae’r llwybr hwn yn ffordd o gysylltu llwybrau arfordirol y gogledd a’r de hyd arfordir Pen Llŷn, gan greu cylchdaith arbennig o amgylch y penrhyn cyfan y gellir ei gerdded dros gyfnod o bedwar neu bum diwrnod. Gan ddechrau ym mhentref Abersoch, mae’r llwybr yn ymddolennu drwy'r dirwedd i Nefyn ar arfordir gogleddol y penrhyn, gan orffen yn un o safleoedd EcoAmgueddfa Pen Llŷn, sef:   Amgueddfa Forwrol Llŷn   (  gallwch ddysgu mwy am y rhwydwaith EcoAmgueddfeydd yma  ).

Mae amlinelliad o ddwy ran ychwanegol i’r llwybr hwn i'w weld yn y MapStori isod: y rhan o Oriel Plas Glyn-y-Weddw i Abersoch hyd arfordir deheuol y penrhyn, a’r rhan o Nefyn i Nant Gwrtheyrn hyd arfordir y gogledd. Mae’r rhannau ychwanegol hyn yn cynnwys Llwybr Arfordir Cymru ac yn ymuno â dwy arall o ganolfannau diwylliannol a threftadaeth EcoAmgueddfa Pen Llŷn, felly mae’n werth cerdded y pellter ychwanegol os bydd amser a thywydd yn caniatáu!

Mae'n edrych tua’r de-orllewin ar hyd asgwrn cefn Pen Llŷn, gyda’i frigiadau nodweddiadol o graig igneaidd galed yn ffurfio cyfres o gribau fel Garn Boduan a Garn Fadryn. Gallwch weld yr olygfa hyfryd hon drwy gerdded y rhan ychwanegol o Nefyn i Nant Gwrtheyrn.

Mae taith gerdded Llwybr y Morwyr tua 17km o hyd, ac mae’n cymryd rhwng pedair a chwe awr i’w chwblhau, yn dibynnu ar ba mor gyflym rydych chi’n cerdded, a sawl gwaith rydych chi’n gwyro oddi ar y llwybr i archwilio’r cyfoeth o nodweddion diddorol sydd i'w gweld ar hyd y ffordd! Mae’r ddwy ran ychwanegol ar y naill ben a’r llall i'r llwybr yn ychwanegu 5-10km a 2-3 awr arall at y daith.   Mae ffeil GPX o'r llwybr ar gael yma. 

Mae arwyddion sy’n dangos y ffordd i'w gweld ar hyd y llwybr o’i ddechrau i’w ddiwedd (dilynwch arwyddbyst ‘Llwybr y Morwyr’). Mae’r llwybr yn dilyn amrywiaeth o lwybrau: mae rhai rhannau ohono ar lwybrau cerdded pwrpasol a rhai yn mynd trwy gaeau, a rhai rhannau eraill ar hyd ffyrdd sydd wedi'u tarmacio. Dylech gadw cŵn ar dennyn drwy gydol y daith, gan fod y llwybr yn mynd â chi drwy gaeau lle gallai defaid neu dda byw fod yn pori (byddwch yn arbennig o ofalus yn ystod cyfnod wyna'r gwanwyn, o fis Chwefror i fis Ebrill). Rydyn ni’n argymell gwisgo esgidiau cerdded ymarferol neu esgidiau sy’n addas ar gyfer yr awyr agored, yn enwedig drwy fisoedd y gaeaf.

Dilynwch arwyddion ‘Llwybr y Morwyr’ i lywio eich ffordd ar hyd y llwybr hwn

Nid yw’r pwyntiau sydd wedi’i hamlinellu yn ein map isod o reidrwydd yn cyfateb yn union i bwyntiau neu arwyddion wedi’u rhifo ar y llwybr ei hun. Yn hytrach, dylech ystyried y map hwn fel cydymaith i chi wrth archwilio’r ardal sy’n rhoi gwybodaeth i chi am rywfaint yn unig o’r amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt, hanes diwylliannol, pwyntiau o ddiddordeb daearegol a nodweddion eraill y gallech ddod ar eu traws ar hyd y ffordd.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n cychwyn ar y llwybrau hyn i ddefnyddio’r gwahanol ffynonellau gwybodaeth rydyn ni’n eu darparu i’ch helpu i ddarganfod y llu o straeon diddorol sy’n gwneud y gornel hyfryd hon o Gymru mor unigryw. Mwynhewch!

Cyn i chi adael

  • Cofiwch edrych ar ragolygon y tywydd, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf. Rydyn ni’n argymell defnyddio rhagolwg y Swyddfa Dywydd sydd ar gael yma:    https://www.metoffice.gov.uk/  
  • Lawrlwythwch ap ' Crwydro Arfordir Cymru ', sef yr ap newydd o ddewis i droi ato wrth archwilio holl arfordir Cymru a’i fywyd gwyllt, ac a luniwyd gan bartneriaeth o sefydliadau yng Nghymru
  • Rydyn ni’n argymell eich bod yn defnyddio map OS wrth grwydro i’ch helpu i lywio eich ffordd drwy’r dirwedd.  Gallwch hefyd ei lwytho i lawr ar eich ffôn clyfar.
  • Edrychwch ar amseroedd agor busnesau, caffis a siopau yr hoffech chi ymweld â nhw, efallai, cyn cychwyn ar eich taith, yn enwedig yn y gaeaf ac yn y cyfnodau rhwng tymhorau prysur a thymhorau tawel. I gael gwybodaeth am amseroedd agor y safleoedd EcoAmgueddfa sydd i'w gweld yn y MapStori hwn, dilynwch  y dolenni ar wefan Ecoamgueddfa yma  

Rydyn ni eisiau rhannu ein cornel hyfryd o’r byd â chi a sawl cenhedlaeth i ddod. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cefnogi ecodwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n helpu i adfywio’r fro, ac rydym yn gobeithio y byddwch chithau’n gwneud hynny hefyd. Treuliwch funud yn darllen ein dogfen  '  Cofio Cyn Cychwyn'  er mwyn i chithau hefyd allu chwarae eich rhan. Go raibh maith agat.


Os ydych chi wedi mwyhau’r daith hon, efallai yr hoffech chi hefyd archwilio rhai o’n teithiau cerdded a’n MapiauStori eraill sy’n dogfennu tirwedd a natur Pen Llŷn fel rhan o    brosiect Ecoamgueddfeydd LIVE :

Gallwch hefyd fynd i’r adran  'Teithiau Cerdded'  ar wefan LIVE i weld rhagor o deithiau cerdded ar benrhyn Llŷn a phenrhyn Iveragh.

Mae  Ben Porter  yn ecolegydd, yn ffotograffydd bywyd gwyllt ac yn ymchwilydd o Ogledd Cymru. Roedd yn un o Gasglwyr Gwybodaeth y prosiect Ecoamgueddfa LIVE yn ystod 2020 a 2021. Mae Ben wedi treulio ei amser ar brosiectau’n amrywio o adfer tirwedd yng Nghymru, i waith ymchwil i adar môr ar ynysoedd anghysbell, arolygon bywyd gwyllt, gwaith ffotograffiaeth llawrydd a thywys. Mae ganddo ddiddordeb arbennig o frwd mewn cyfathrebu gwyddoniaeth ac ennyn diddordeb pobl yn rhyfeddodau'r byd naturiol.

Cyfryngau a thestun

  Ben Porter  (hawlfraint delweddau)

Delweddau ychwanegol

Deio Collwyn Williams a Steve Porter

Delweddau hanesyddol

Y Gylfinir yw un o’r rhywogaethau adar y byddwch yn debygol o’u gweld ar y llwybr hwn yn ystod y gwanwyn, ac mae Comin Mynytho yn gartref i un o’r parau olaf o’r rhywogaeth enigmatig yma sy’n bridio ym Mhen Llŷn.

Bwrdd dehongli Llwybr y Morwyr yn nhref arfordirol Nefyn.

Mae'n edrych tua’r de-orllewin ar hyd asgwrn cefn Pen Llŷn, gyda’i frigiadau nodweddiadol o graig igneaidd galed yn ffurfio cyfres o gribau fel Garn Boduan a Garn Fadryn. Gallwch weld yr olygfa hyfryd hon drwy gerdded y rhan ychwanegol o Nefyn i Nant Gwrtheyrn.

Dilynwch arwyddion ‘Llwybr y Morwyr’ i lywio eich ffordd ar hyd y llwybr hwn